Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Y Gaethfasnach

Yr Ail "Middle Passage"

Darlun o gaethweision yn cael eu prynu Prynu caethweision

Y "Middle Passage" oedd y term ar gyfer cludo caethweision ar draws yr Iwerydd.

Byddai llawer ohonynt wedi cael eu cipio ymhell o'r môr a'u gorfodi i gerdded at y llongau Ewropeaidd a'u disgwyliai ar arfordir Affrica.

Ar ôl cyrraedd America gallent ddisgwyl taith hir arall o'r borthladd i'r blanhigfa.

Felly dyma'r rheswm am ddisgrifio'r daith ar draws yr Iwerydd fel y middle passage. Mae'n anodd dychmygu amodau echrydus y daith honno a ddaeth â hanner miliwn o Affricaniaid i America.

Yr ail "Middle Passage"

Hen ffoto o ferch yn pigo cotwm Hogan yn pigo cotwm

Ond rhwng 1790 ac 1860 gwerthwyd dros filiwn o gaethweision o'u cartrefi yn yr Upper South (Virginia a Maryland) i weithio yn y planhigfeydd cotwm a siwgr oedd yn cynyddu tua'r gorllewin. Oherwydd maint y gaethglud newydd hon, ac oherwydd fod cymaint yn marw ar y daith, dechreuwyd cyfeirio ati fel yr ail "middle passage".

Dirwasgiad

Roedd cnydau fel tobaco yn sbydu'r maeth o'r tir dros y blynyddoedd a'r planhigfeydd yn dod yn llai cynhyrchiol.

Darlun o gaethwas yn cael ei werthu Gwerthu caethweision

Gymaint oedd y dirwasgiad amaethyddol yn Virginia, yn 1832 ystyriwyd rhyddhau'r caethweision, dros gyfnod, fel y gwnaed eisoes yn Efrog Newydd a Pennsylvania. Gwrthodwyd y cynnig o 73 pleidlais i 58.

Hyd yn oed os oedd amaethyddiaeth ar i lawr yn Virginia, roedd ar i fyny yn nnhaleithiau'r Gorllewin, ac felly gellid gwerthu'r caethweision yno yn hytrach na'u rhyddhau.

Trawma

Cafodd teuluoedd eu rhannu, a dadwreiddiwyd pobl o'u hardaloedd... unwaith eto. Os oedd llwybrau cudd yr "underground railroad" yn rhedeg tua'r gogledd gyda'i "orsafoedd" a'i "conductors", roedd 'na lwybrau eraill mwy cyhoeddus yn y taleithiau caeth oedd yn rhedeg tua'r gorllewin, gyda'u "trader yards" a "slave pens". Ar ôl y planhigfeydd, y fasnach ddynol newydd yma oedd y fasnach fwya proffidiol yn nhaleithiau'r De.

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006