Llong o ddechrau’rLlyfr Thomas Phillips, "A Journal of a Voyage made in the Hannibal" yw un o'r cofnodion manylaf a mwyaf adnabyddus o fywyd ar gaethlong. Mae'n disgrifio mordaith rhwng Medi 1693 a Mehefin 1695, ond cymharol brin yw'r wybodaeth am y capten ei hun tu hwnt i'r gyfrol hon.
Tudalen cyntaf ei lyfr
Mae'n ffigwr enigmatig inni erbyn heddiw. Gwyddwn iddo orfod ymddeol o'r môr ar ôl y fordaith hon oherwydd cyfres o ffitiau a barodd iddo golli ei glyw:
Being render'd unfit for my employment, by my deafness, I settled my affairs in London, took my leave of it, and came down to Wales, among my relations in Brecknock, my native town, there to spend the rest of my life as easily as I can, under my hard misfortune.
Yn ôl colofn hanes lleol (Brecon County Times Awst 13eg 1925) ar ôl dychwelyd i'r dre cafodd Phillips ei wneud yn henadur o'r dre, ac ef sydd wedi rhoi ei enw i'r Captains Walk sy'n arwain lawr at yr afon. Roedd ganddo was du o'r enw Scipio, a bu farw'n ddi-blant yn 1713, gan adael ei dy i'w nith.
Afon Savannah heddiw
Llong 450 tunnell hefo 36 o ganonau oedd yr Hannibal. Cartel o farsiandwyr oedd biau'r llong ac roedd gan Phillips yntau ei siar ynddi hefyd. Teithiodd i Affrica ar ran y Royal African Company of England.
Ni wyddwn faint oedd ei oed adeg y fordaith. Mewn un darn teimladol, mae'n disgrifio claddu ei frawd ei hun ar y môr, a hwnnw ond yn un ar bymtheg oed:
The prayers of the church being read, I help'd to commit his body to the deep, which was the last office lay in my power to do for my dear brother. Then the Hannibal fired sixteen guns at half minute distance of time, which was the number of years he had liv'd in this uncertain world
Mae oed ei frawd yn peri i rywun feddwl am Thomas Phillips fel dyn cymharol ifanc - ac eto, roedd yn gapten llong.
Blaenddalen ei lyfr
Yn sicr, mae'n dangos agwedd un digon ifanc ei ysbryd, wrth gofnodi'r hyn welodd yn Affrica.
Their way of welcoming and saluting here...is by taking one's thumb and forefinger, and making them snap, in the mean time crying Acky O! Acky O!
Cyfarchiad gwahanol a gafodd gan buteiniaid Capo Verde:
Negroe women who talk'd to us many smutty English words, making lascivious undecent gestures with their bodies...
Mwsog mewn coed trofannol
Serch hynny, nid ymweld â gwledydd Affrica fel twrist oedd Thomas Phillips, ond i brynu caethweision - 692 ohonynt, i'w gwerthu yn Barbados. Roedd gwlanen Gymreig ymhlith y nwyddau a ffeiriodd am yr Affricaniaid. Mae'n disgrifio'r dull o'u llwytho ar y llong, a'u bwydo, a'u gorfodi i ddawnsio ar y dec bob nos i'w cadw'n heini. Ambell waith, bron eich bod chi'n synhwyro fod o'n cydymdeimlo â'r trueiniaid dan ei ofal.
I can't think there is any intrinsick value in one colour more than another, nor that white is better than black, only we think it so because we are so;[...]the blacks[...]say the devil is white, and so paint him.
Ac eto, roedd yn brandio pob un ohonynt "in the breast or shoulder, with a hot iron, having the letter of the ship's name on it".
Brandio caethweision
Pan fuodd rhyw dri chant ohonynt farw yn ystod y daith, dim ond achwyn a wnaeth, fod hyn yn "great detriment to our voyage, the Royal A frican Company losing ten pounds by every slave that died". A hynny, meddai, ar ôl iddo ddioddef misoedd o ddrewdod gan "a parcel of creatures nastier than swine"!
A oes modd ei esgusodi o gwbl? Go brin. Oes greulonach oedd hi efallai; cyfnod o ryfel yn sicr, ac fe ymosodwyd ar y Hannibal gan long ryfel o Ffrainc. Roedd rhaid i Phillips fod yn weddol galed yn wyneb angau:
Last night Thomas Cronow (o Grono neu Goronwy) an honest stout Welshman, one of our sailors, died of his wounds received in the late engagement; one of his legs being carry'd off about the ancle, and half his other foot by the same shot.
Hysbyseb ArwerthiantAc eto, er mor ddi-emosiwn ei ddisgrifiad, mae Phillips o leiaf yn enwi ei gydwladwr ac yn ei gadw ar gof. Nid yw'n enwi yr un o'i gyd-deithwyr du. A dyna'r enigma. Roedd ganddo ddiddordeb byw yn arferion yr Affricaniaid yn eu gwlad eu hunain; ond unwaith iddo dalu amdanynt, roedden nhw'n peidio â bod fel pobl. "Cargo" oeddynt.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006