Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Y Gaethfasnach

Y Gaethlong o Bwllheli

Hanes y "Mary"

Yn llyfr J Geraint Jenkins, "Traddodiad y Môr" mae'n dyfynnu'r geiriau canlynol gan rywun ymwelodd â Phwllheli yn 1801:

This little town seems in a flourishing condition. I saw a large Guineman on the stocks, fitted for 600 slaves

Adeiladwyd dros 400 o longau ym Mhwllheli rhwng y 18fed ganrif a'r 19eg, a buasai'r "Guineman" hon, (sef llong ar gyfer masnachu hefo Guinea ar arfordir Affrica) yn un o'r llongau mwyaf i hwylio o'r dre.

Cynllun caethlongCaethlong y "Brookes"
o Lerpwl, 1788

O edrych wedyn ar y rhestrau llongau sydd yn "Hen Longau Sir Gaernarfon" gan David Thomas, gwelir mai'r "Mary", llong 426 tunnell, oedd y "Guineman" hon, yn &ocric;l pob tebyg, oherwydd:

  • hi oedd y llong fwyaf o bell ffordd i gael ei hadeiladu ym Mhwllheli y flwyddyn honno.
  • cafodd ei hadeiladu ar gyfer perchennog yn Lerpwl.

Lerpwl oedd prif ganolfan y gaethfasnach yn y cyfnod hwnnw; ar gyfartaledd, roedd llong yn gadael Lerpwl am Affrica i brynu caethweision bob tridiau. Yn y canmlynedd cyn gwahardd y gaethfasnach yn 1807, cychwynnodd rhyw 5mil o gaethlongau eu mordeithiau o Lerpwl (o'i gymharu â rhyw 3 mil o Fryste a 2 fil o Lundain).

Mr. Courtenay

Yn ôl Lewis Lloyd "Pwllheli - the Port and Mart of Llyn", rhyw Mr. Courtenay oedd y perchennog cyntaf. Ond pam fyddai hwnnw wedi comisiynu llong o iard ym Mhwllheli a chymaint o iardiau llongau gymaint nes ar lannau'r Merswy ei hun?

Fferi ar y MerswyAfon Merswy heddiw

Roedd nifer o Gymry'n byw yn Lerpwl oedd yn gysylltiedig a'r gaethfasnach. Cwynodd y pregethwr enwog John Elias am hyn pan ymwelodd a'r ddinas yn 1806:

cawsom fod rhai o'r brodyr yn gweithio ar y llongau sydd yn y trade melltigedig hwn, ie, un ohonynt yn gweithio cadwynau i'w rhoddi am y caethion truain; anogasom ef i roddi y gorchwyl i fyny yn ddioed

Tybed ai Cymro'n byw yn Lerpwl oedd un o gydweithwyr Mr. Courtenay? Rhywun yn hanu o Lyn efallai ac yn awyddus i gyfeirio busnes i'w ffrindiau neu'i deulu, nôl ym Mhwllheli?

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006