Llongau pwy oedd wrthi?
| Nifer o fordeithiau | Nifer caethweision | |
|---|---|---|
| Portiwgal (gan gynnwys Brasil) | 30,000 | 4,650,000 |
| Sbaen (gan gynnwys Ciwba) | 4,000 | 1,600,000 |
| Ffrainc | 4,200 | 1,250,000 |
| Iseldiroedd | 2,000 | 500,000 |
| Prydain | 12,000 | 2,600,000 |
| Denmarc | 250 | 50,000 |
Portiwgal yn 1444 oedd y wlad gyntaf i gario caethweision allan o Orllewin Affrica, ac yna Sbaen, ond eu gwerthu yn Ewrop a wnaed i ddechrau. Gyda thwf eu meddiannau yn y Caribi ac ar dir mawr America, daeth galw cynyddol am lafur caeth.
Roedd gan yr Iseldiroedd drefedigaethau bychain yn yr Americas o ddechrau'r 16eg ganrif. Amsterdam Newydd oedd enw gwreiddiol Efrog Newydd, ac mae'n debyg mai dyn o'r Iseldiroedd oedd capten y llong werthodd y caethweision cyntaf yn Jamestown.
Llong yn Jamestown heddiw
Tan y 1730au y Portiwgeaid oedd ar y blaen yn y gaethfasnach, ond yna daeth llongau Prydain i'w dominyddu.
Daeth Denmarc yn gymharol ddiweddar i'r gaethfasnach yn 1651; nhw hefyd oedd y wlad gyntaf i'w gwahardd yn 1792.
Amcangyfrifir fod gwledydd eraill Ewrop er enghraifft Lithwania, Sweden a gwledydd yr Eidal hefyd wedi anfon rhyw 50 000 o gaethweision Affricanaidd ryngddynt ar draws yr Iwerydd.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006