| Brasil | 4,000,000 |
| Trefedigaethau Sbaen (gan gynnwys Ciwba) | 2,500,000 |
| Caribi (Prydain) | 2,000,000 |
| Caribi (Ffrainc) | 1,600,000 |
| Trefedigaethau Prydeinig yng Ngogledd America/UDA | 500,000 |
| Caribi (Iseldiroedd) | 500,000 |
| Caribi (Denmarc) | 28,000 |
Er fod pedair miliwn o gaethweision yn yr UDA erbyn 1865, tyfu drwy gynnydd naturiol wnaeth y boblogaeth.
Roedd y planhigfeydd siwgr yn y Caribi a De America yn dibynnu fwy ar lafur gwrywaidd, felly roedd llai o gyfle i'r boblogaeth gynyddu'n naturiol. Yn yr UDA ar y llaw arall, roedd galw am ferched i gynaeafu cotwm.
Merched yn pigo cotwm
Derbyniwyd ar y planhigfeydd siwgr y byddai'r caethweision yn marw'n ifanc oherwydd natur y gwaith a byddai'n rhaid mewnforio rhai newydd yn eu lle.
Parhaodd caethwasanaeth yn Ciwba tan 1886 ac yn Brasil tan 1888.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006