Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Y Gaethfasnach

Hyd yn oed petai'r Iwerydd yn cael ei draenio yfory byddai'r cof am y gaethfasnach yn parhau, ar ffurf llwybr o esgyrn dynol rhwng y ddau gyfandir.
Map o fôor yr Iwerydd a'r llwybr o Brydain i'r orllewin Affrica ac ymlaen i AmericaY fasnach driongl

O Ewrop i Affrica

Byddai llongau Prydain yn cario nwyddau i'w gwerthu yn Affrica, a amrywiai o botiau haearn i wirodydd a gynnau.

Roedd trugareddau copor (er enghraifft o waith Thomas Williams ym Mhenclawdd), a "Welsh plains", sef brethyn o felinau gwlan Cymru, hefyd ymhlith y nwyddau a ddefnyddiwyd gan gapteiniaid y caethlongau i brynu eu cargo dynol.

O Affrica i America

Amcangyfrifir fod 11 miliwn o gaethweision wedi cael eu cipio ar draws yr Iwerydd o Affrica. Bu farw rhai miliynau eraill ar y daith.

O America i Ewrop

Ar y daith yn ôl adref o'r Americas, byddai'r caethongau'n cario siwgr, rym, tobacco, reis, indigo, a chotwm.

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006