Pam fod cymaint o Americanwyr du heddiw hefo enwau Cymreig?
O'r 432 o chwareuwyr peldroed Americanaidd du yn ystod tymor 1975-6, roedd 56 ohonynt, neu ryw 13% â chyfenwau Cymreig. Mae'r canran hwn yn eitha nodweddiadol o drwch y boblogaeth ddu yn yr UDA - sut felly?
Teulu o gaethweision
Ai caethfeistri o dras Cymreig oedd yn rhoi'r cyfenwau hyn iddynt? Na; - pur anaml fyddai gan gaethweision gyfenwau o gwbl; roedd eu cyfenwau gwreiddiol yn arwydd o'r diwylliant cynhenid yr oedd y caethfeistri mor awyddus i'w ddinistrio (gweler "seasoning"). Tybed oedd hyn hefyd yn ffordd o'u "trin fel plant", pwysleisio eu dibynniaeth ar y meistr a gwadu bod nhw'n oedolion "go iawn"?
Enw cynta'n unig fyddai gan y rhan fwyaf, enwau mawreddog clasurol yn aml fel Caesar, Cassius a Pompey. Rhyw fath o jôc gan eu perchenogion oedd rhoi enwau fel hyn arnynt. Byddai'r caethfeistri hefyd yn dewis i'w caethweision yr un fath o enwau a roddid ar eu ceffylau a'u cwn - Fountain, Cuffee ac ati - yn hytrach na rhoi enwau mwy "arferol". Unwaith eto, roedd hyn yn ffordd o wadu dynoliaeth a chydraddoldeb y caethweision.
Llyffetheiriau o gyfnodWrth gael eu rhyddid; a'r rhan fwyaf ohonynt felly yn ystod cyflafan yr 1860au. Byddai rhai yn cymryd cyfenwau i ddisgrifio'u hunaniaeth newydd fel Freeman, Newman a Liberty, neu'n dewis enwau arwyr Americanaidd fel Washington a Lincoln:
Abraham Lincoln:After freedom a heap of people say they was going to name theirselves over...Some of the names was Abraham, and some called theirselves Lincum. Any big name, 'cepting their master's name. It was the fashion. I heard 'em talking 'bout it one evening, and my pa say, "Fine folks raise us and we gonna hold to our own names" That settled it with all of us.Lee Guidon (Slave Narratives, De Carolina)
Ac eto, er cael y cyfle i ddewis eu cyfenwau eu hunain, ymddengys fod llawer wedi cymeryd enwau eu cyn-berchnogion.
The master's name was usually adopted by the slave after he was set free. This was done more because it was a logical thing to do and the easiest way to be identified than it was through affection for the master. Also the government seemed to be in a almighty hurry to have us get names. We had to register as someone so we would be citizens.Martin Jackson (Slave Narratives, Texas)
Anecdotaidd yw'r rhan fwyaf o'r dystiolaeth ynglyn â chyfenwi'r cyn-gaethweision. Er gwaethaf y twf mewn astudiaethau Affro Americanaidd, ychydig iawn o waith cliometrig sydd wedi ei wneud i ddadansoddi pa enwau'n union a gymrwyd gan gyn gaethweision.
"Slave narrative"
Mae'n siwr fod y patrwm yn amrywio o ardal i ardal, ond o ddarllen Slave Narratives y 1930au, (sampl fechan iawn wrth gwrs o'r 4 miliwn a gafodd eu rhyddhau, ymddengys fod mwyafrif bychan o'r rhai sy'n sôn am sut y cawsant eu cyfenwau wedi cymryd enwau eu cyn berchnogion. Ac roedd rhai o'r cyn-feistri hynny wrth gwrs, o dras Cymreig...
The man I belonged to been Marster John A Williams, born on the Cape Fear. I go by Marster John name - Williams Willis Williams (Slave Narratives, De Carolina)
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006