Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Y Caethfeistri - Sut y defnyddiodd caethfeistri eu caethweision?

Trefn amlweddog

Ffoto o gyn-gaethwas Cyn-gaethwas

Roedd caethwasiaeth yn drefn amlweddog gyda sawl ffurf arni.

Y planhigfeydd mawr sy'n tueddu hawlio'r sylw gan yr haneswyr, ond ar ganol y 19eg ganrif, roedd hanner caethfeistri'r Unol Daleithiau yn berchen ar bump neu lai o gaethweision. Llai nag un y cant o gaethfeistri oedd â chant neu fwy o gaethweision.

Caethweision y wlad a'r dre

Roedd caethweision yn llafurio yn y wlad a chaethweision yn gweini yn nhai mawr y dre (gweler tystiolaeth Rosa Starke). Roedd 20 y cant o gaethweision Virginia er enghraifft, yn gweithio mewn trefi yn hytrach nag ar blanhigfeydd.

Roedd na lawer o gaethweision oedd yn grefftwyr a rhai yn weithwyr diwydiannol; roedd cymaint o ddefnydd o gaethweision yng ngwaith haearn Tredegar yn Richmond er enghraifft, aeth y gweithwyr gwyn ar streic.

Ffoto o oruchwyliwr gwyn ar ei geffyl mewn cae cotwm Goruchwyliwr gwyn ar
ei geffyl

Serch hynny, gweithio ar blanhigfeydd oedd y rhanfwyaf. Yn 1850, o'r dwy filiwn a hanner oedd yn gweithio'n y caeau, roedd:

  • 1,815,000 yn tyfu cotwm
  • 350,000 yn tyfu tobaco
  • 150,000 yn tyfu siwgwr
  • 125,000 yn tyfu reis
  • 60,000 yn tyfu hemp

Llogi caethweision

Roedd yn drefn hyblyg a allai ymaddasu at amodau newydd. Yn Virginia a Maryland wrth i'r sefyllfa amaethyddol waethygu ar ddechrau'r 19eg, dewis arall rhag gwerthu caethweision i blanhigfeydd yn y Gorllewin (gw. "Yr Ail Middle Passage") oedd eu llogi allan. Erbyn yr 1850au roedd 200,000 neu 5% o'r boblogaeth gaeth yn gweithio mewn diwydiannau amrywiol.

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006