Cerflun Washington ynCymharol brin yw'r dystiolaeth gadarn o Gymry oedd yn berchen ar gathweision yn yr Unol Daleithiau:
Enghreifftiau:
Gwerthu caethweisionOnd ni ddylid dehongli hyn i feddwl nad oedd llawer iawn mwy o Gymry'n gaethfeistri'n y cyfnod hwn. Gwyddwn fod Cymry America mewn cyfnod diweddarach wedi troi yn erbyn caethwasiaeth, ac mae'u fersiwn nhw o hanes yr Unol Daleithiau yn dal i ddylanwadu arnom hyd heddiw. Nid oes lle i amau nad ydyw'n gywir ar gyfer eu cyfnod nhw, sef canol y 19eg ganrif, ond beth am y ddwy ganrif cyn hynny?
Mae'n gyfnod anos o lawer i'w ddadansoddi gan yr hanesydd. Mae 'na lai o gofnodion wedi goroesi o'i gymharu â'r 19eg ganrif, a doedd dim gwasg Gymraeg yn America'r cyfnod. Dwy gymuned Gymraeg yn unig sydd wedi eu cofnodi yn nhaleithiau'r De yn y 18fed ganrif, un yng Ngogledd Carolina, a'r llall ar lannau Afon Peedee yn Ne Carolina.
Cyfenw Cymreig oeddAc eto, roedd digonedd o gaethfeistri gyda chyfenwau Cymreig yn nhaleithiau'r De. Yn 1790 roedd cyfenwau Cymreig gan bron i ddeg y cant o boblogaeth y Carolinas a chwech y cant yn Virginia.
Rhaid bod yn ofalus gyda'r dystiolaeth yma. Fedrwn ni ddim dweud i sicrwydd fod pawb â chyfenw Cymreig wedi mudo o Gymru:
William Powell oedd perchennog un o'r planhigfeydd cyntaf ger Jamestown yn Virginia, ond gwyddwn mai yn Lloegr y cafodd ei eni.
Roger Williams oedd sefydlwr trefedigaeth Rhode Island, ond un o Loegr oedd yntau hefyd
Serch hynny, ar sail tystiolaeth y cyfenwau Cymreig gallwn ddweud yn betrus fod na lawer iawn o gaethfeistri yn y De oedd naill ai wedi mudo o Gymru neu'n ddisgynyddion i Gymry.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006