Fel Cymry 'da ni'n licio meddwl bod ni'n gwybod beth yw byw dan gysgod diflaniad ein diwylliant a'n hiaith, ond ni all hyn ein paratoi ar gyfer graddfa'r golled ieithyddol a fu wrth i filiynau o Affricaniaid gael eu cipio o'u cartrefi a'u gwerthu yn America.
Coed Palmetto
Roedd hi'n bolisi gwahanu caethweision o'r un genedl oddi wrth ei gilydd, er mwyn sicrhau na allen nhw gyfathrebu â'i gilydd mewn iaith nad oedd yn ddealladwy i'w meistri, ac felly eu gorfodi i ddysgu Saesneg. Seasoning oedd y gair am y broses hon o dorri eu hewyllys nes iddynt dderbyn holl amodau eu caethiwed, gan gynnwys colli iaith, a'r hanes a'r diwylliant oedd ynghlwm â hynny.
Roots, Alex Haley
Prin iawn yw'r enghreifftiau o eiriau Affricanaidd sydd wedi goroesi. Yn ei lyfr enwog "Roots" (1976) mae Alex Haley yn disgrifio sut y traddodwyd cof drwy sawl genhedlaeth am ei hen hen hen hen daid, Kunta Kinte, oedd wedi cael ei gipio o Affrica, nôl yn 1767. "Yo' gran' pappy like to tell me things in de African tongue. Like he call a fiddle a ko, or he call a river Kamby Bolongo". Ond eithriadau prin yw hyn.
Mae un ardal lle mae'r gymuned ddu wedi dal mwy o afael ar eu hetifeddiaeth ieithyddol Affricanaidd, sef ardal y Gullah. Mae'r gair Gullah yn disgrifio iaith a diwylliant ynysoedd ac arfordir y Carolinas a Georgia.
Teulu caeth o Georgia
Yma, oherwydd fod malaria yn gymaint o broblem, tueddai'r caethfeistri adael eu planhigfeydd yng ngofal goruchwylwyr Affricanaidd, ac yn sgil hyn a'r ffaith fod llawer o'r ardaloedd hyn mor ddiarffordd, maen nhw wedi gallu cadw rhyw gymaint o arwahanrwydd.
Mae Gullah yn iaith Creole yn seiliedig ar y Saesneg ond yn cynnwys nifer o eiriau benthyg o ieithoedd Affricanaidd, e.e.
ac hefyd yn ymdebygu tipyn i ieithoedd Gorllewin Affrica o ran ei strwythur.
Cyn gaethwas Millie Williams
Serch hynny, yr unig frawddegau cyfan o iaith Affricanaidd sydd wedi goroesi oedd mewn cân a recordiwyd gan yr ieithydd Lorenzo Turner yn 1931. Daeth ar draws Amelia Dawley, dynes hanner cant oed, a'i recordio hi yn canu cân a ddysgwyd iddi gan ei mam. Ni wyddai beth oedd ystyr y geiriau; rhywbeth i famau ddiddanu eu plant dyna i gyd.
Deallyd wedyn mai geiriau o iaith Mende oeddynt ac yn 1997 aed a merch Amelia, oedd hefyd yn gwybod y gân, i'r pentref yn Sierra Leone lle tarddodd y gân. Nid cân plant oedd hi wedi'r cyfan ond rhan o ddefod gladdu o'r enw "teijami" neu "groesi'r afon".
Cân Mende a recordiwyd ynRoedd hi bron â mynd yn angof yn Sierra Leone hefyd am fod y ddefod gladdu wedi ei disodli i gryn raddau ers i Gristnogaeth ymwreiddio yn yr ardal genhedlaeth neu ddwy yn ôl.
Ceir hanes y cyfarfyddiad hynod yma yn y DVD "The Language you Cry in".
Dyma'r gân:
a wαkα mu mαnε kambεi ya lε; li, lε:i tαmbε
a wαkα mu mαnε kambεi ya lε; li, lε:i ka
ha sa wuli ηgo sihã; kpaηga li lε:
ha sa wuli ηgo ndεli, ndi, ka
ha sa wuli ηgo sihã; ya kwεndai ya
(Dewch pawb ynghyd i dorri bedd, nid yw'n barod, hedd i'w lwch
Dewch pawb ynghyd i dorri bedd, nid yw'n barod, hedd buan i'w lwch
Angau sydyn sy'n hoelio'n sylw, fel ergyd o ddryll
Angau sydyn sy'n hoelio sylw hynafgwyr ein llwyth
Angau sydyn sy'n hoelio'n sylw, fel tabyrddau o bell)
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006