Nid rhyw Uncle Tom's Cabin mo hyn. Tecach ei ddisgrifio fel Llyfr Ecsodus yr Affro Americanwr.
Fel rhan o ymdrechion ehangach i greu gwaith yn yr Unol Daleithiau yn ystod y 30au, sefydlwyd y Federal Writers Project (FWP). Un o'r tasgau a roddwyd i'r ysgrifennwyr di-waith oedd eu hanfon allan i gasglu tystiolaeth gan y genhedlaeth olaf o bobl dduon oedd wedi byw fel caethweision. O'r 4 miliwn a ddaethai yn rhydd nôl yn 1865, amcangyfrifid fod rhyw gan mil dal ar dir y byw yr adeg honno, a holwyd 2300 ohonynt.
"Lawdy, honey, yoWrth ddefnyddio'r cyfweliadau hyn fel ffynonellau hanesyddol, rhaid cadw ambell beth mewn cof;
"Lots of old slavesEr mor amherffaith oedd y dulliau o gasglu eu tystiolaeth, roedd hwn yn broject hynod bwysig, yn bennaf efallai oherwydd fod cymaint wedi cael eu holi.
Wrth gwrs, nid dyma'r tro cyntaf i gaethweision neu gyn-gaethweision gael cyhoeddi eu hanes. Un o'r cynta ac o bosib yr enwoca yw hunangofiant Olaudah Equiano (1789).
Roedd cofiannau o'r fath yn arf bwysig yn yr ymgyrch bropaganda yn erbyn caethwasiaeth, ac fe gyfieithwyd ambell un i'r Gymraeg.
Hunangofiant Olaudah Equiano
Ond rhyw gant yn unig o'r hunan gofiannau hyn a gyhoeddwyd cyn 1865, ac ychydig iawn wedyn. Er eu bod yn hirach, mae naws fwy llenyddol iddynt.
Mae cyfweliadau llafar y 1930au ar y llaw arall yn fwy uniongyrchol; ac ym marn llawer, yn fwy pwerus. Maent hefyd yn cynrychioli croesdoriad ehangach o lawer o brofiad dan y drefn gaeth. Drwy'r cyfweliadau hynod hyn, clywn hanes dirdynnol y caethwas, a hynny yn ei lais ei hun - neu rywbeth reit debyg iddo.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006