Cliciwch ar y llun i ddarllen eu stori bersonol.
O ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen, cyhoeddwyd hunangofiannau gan nifer o gaethweision oedd wedi llwyddo ffoi o'u caethiwed. Y cyfrolau hyn a gyfrifir bellach fel man cychwyn llenyddiaeth Affro-Americanaidd.
Ond yn y 1930au, holwyd rhyw 2300 o gyn-gaethweision fel y pedwar uchod, er mwyn cofnodi atgofion y genhedlaeth olaf o Americanwyr du oedd wedi byw fel caethweision - cyn iddyn nhw ddiflanu am byth.
Naws llafar, hollol wahanol i'r cofiannau cynharach, sydd i'r cofnodion hyn ond maen nhw'n ddarllen anhepgor i'r neb sydd am wybod sut brofiad oedd byw fel caethwas.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006