Dr. Jerry Hunter"The land of the free" - gyda'r geiriau hyn mae anthem genedlaethol yr UDA yn gorffen. Ac eto roedd gan Washington, arlywydd cynta'r wlad, dros ddau gant o gaethweision! Mae'r wlad honedig rydd hon wedi ei seilio'n rhannol ar gaethwasanaeth, ac hyd heddiw mae'r Unol Daleithiau yn dal i ddod i delerau â'i hanes fel America Gaeth...
Yn y rhaglen hon, bydd Dr. Jerry Hunter yn edrych ar wreiddiau caethwasanaeth yn yr Unol Daleithiau, o 1619 pan werthwyd y caethweision cyntaf ar dir mawr Gogledd America, hyd 1776 pan fynnodd yr Unol Daleithiau eu rhyddid oddi wrth Brydain. Bydd yn ymweld â phlanhigfeydd tobaco Virginia, eglwys Gymreig yn Delaware a dalfa gaethweision o Kentucky ar ei daith.
Gofynna hefyd pam fod cymaint o Americanwyr du hyd heddiw â chyfenwau Cymreig, a bydd yn adrodd hanes rhai o'r Cymry oedd ynghlwm â chaethiwo'u cyndadau, fel y capten caethlong Thomas Phillips, neu'r bardd a chaethfeistr Goronwy Owen.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006