Jerry HunterMae cyfenwau Cymreig gan lawer o Americanwyr du oherwydd fod setlwyr cynnar o Gymru yn berchen ar gaethweision; ond erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd rhai o'r setlwyr Cymraeg a ddaeth ar eu hôl yn dechrau gwrthwynebu caethwasiaeth. Beth oedd yn gyfrifol am y newid agwedd yma?
Yn ail raglen y gyfres hon bydd Dr. Jerry Hunter yn ceisio ateb y cwestiwn hwn, gan ymweld â thy caethfeistr Cymreig yn Savannah, a'r neuadd yn Philadelphia lle trafodwyd diddymu Caethwasanaeth am y tro cyntaf.
Bydd yn edrych ar rôl allwedol Robert Everett wrth newid barn y Cymry ynglyn â chaethwasiaeth, gan ddiweddu gyda helynt enwog yr Amistad yn Connecticut, pan enillodd hanner cant o gaethweision eu rhyddid yn llysoedd America.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006