Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Mwy am y Gyfres

Rhaglen Tri
1841 - 1865

Jerry hunter a cherflun Abraham LincolnDr. Jerry Hunter a cherflun
Lincoln, Louisville, KY

Yn rhaglen olaf y gyfres hon, gwelwn ymgyrch hir y Cymro, Robert Everett yn cyrraedd ei anterth a'r caethweision yn dod yn rhydd ar ôl Rhyfel Cartref gwaedlyd.

Dyma'r cyfnod pan ddefnyddiwyd y wasg Gymraeg, oedd newydd ei sefydlu yn America, i newid barn Cymry'r wlad yn erbyn caethwasiaeth. Ond byddai angen mwy na phapurau newydd i newid y drefn.

Bydd Dr. Jerry Hunter yn olrhain hanes rhai o'r Cymry fu'n ymladd â'r caethfeistri yn Kansas a Kentucky, gan ymweld hefyd ag un o brif ganolfannau'r gaeth fasnach yn Charleston.

Bydd yn edrych hefyd ar rai o'r ymdrechion cynharaf i sicrhau cyfartaledd statws i'r cyn-gaethweision, a'r Cymry fu ynglyn â nhw. I'r Americanwyr Affricanaidd, proses hir fyddai ennill rhyddid, nid digwyddiad dros nos.

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006