Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Mwy am y Gyfres

Y Cyflwynydd

Ffoto o Jerry HunterJerry Hunter

Mae cyflwynydd y gyfres, Dr. Jerry Hunter, yn hanu o Cincinnati yn Ohio, dinas oedd ar y ffin rhwng taleithiau caeth y de a thaleithiau rhydd y Gogledd.

Mae ei yrfa academaidd wedi mynd â fo o Cincinnati i Aberystwyth, Caerdydd a Harvard, ac erbyn hyn mae'n Ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mangor.

Ef sydd wedi ymchwilio'r gyfres hon, yn dilyn llwyddiant cyfres flaenorol am Ryfel Cartref America a enillodd wobr Goffa Gwyn Alf Williams (BAFTA).

Robert EverettRobert Everett 1791-1875

Mae ar fin cyhoeddi "I Ddeffro Ysbryd y Wlad - Robert Everett a'r Ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Americanaidd", sef yr ymdriniaeth gyfoes gynta â bywyd y diddymwr mawr hwn.

Ond nid diddordeb hanesyddol yng nghaethwasiaeth yn unig sydd ganddo. Meddai Jerry:

Yn 2007 byddwn ni'n dathlu dauganmlwyddiant y gwaharddiad ar y gaeth fasnach ryngwladol, ond yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae na fwy o gaethweision yn y byd heddiw nag oedd na ddwy ganrif yn ôl. Wrth gofio'r diddymwyr hynny a ddaeth â chaethwasanaeth i ben yn America ryw ganrif a hanner yn ôl, rhaid cofio hefyd fod yna ddigon o waith ar gyfer diddymwyr yr unfed ganrif ar hugain

antislavery.org

walesfairtradeforum.org.uk

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006