Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Mwy am y Gyfres

Gwneud y gyfres

Hen ffoto o ferched yn Pigo CotwmPigo Cotwm

Nid dweud hanes caethwasiaeth ar dir mawr America oedd bwriad y gyfres hon, ond yn hytrach sut y mae'r Cymry wedi ymwneud â chaethwasiaeth, fel caethfeistri ac fel diddymwyr, gan ddefnyddio ffynonellau Cymraeg yn bennaf.

Serch hynny, fel gwrthbwynt i'r safbwyntiau "gwyn" hyn, penderfynwyd hefyd gynnwys dyfyniadau o slave narratives y 1930au ac o ffynonellau cynharach oedd yn cynrychioli rhyw gymaint ar safbwynt y caethwas du.

Roedd sawl anhawster gyda project o'r fath:

  • Anodd crynhoi'r fath ystod o amser 1619 - 1865 i dair awr o deledu. Fel mae Ira Berlin yn dangos yn ei lyfr "Generations of Captivity" nid trefn ddigyfnewid mo'r drefn gaeth. Amrywiai o genhedlaeth i genhedlaeth ac yn wir o ardal i ardal, ac anodd os nad amhosib yw cyfleu hynny o fewn cyfres fer.
  • Mae dehongli caethwasiaeth yn weithred sy'n ymylu ar y di-chwaeth. Pa hawl sydd gan neb i geisio cyfleu profiad caethwas, yn cael ei chwipio, dyweder? Mae sylwadau Marcus Wood yn ei lyfr "Blind Memory" am sut mae caethwasiaeth yn cael ei ddelweddu yn berthnasol yma. Sut ydym yn penderfynu beth sy'n cael ei ddangos?
  • Mae'n bwysig i raglenni herio rhagdybiaethau weithiau - ond rhaid i wneuthurwr rhaglenni geisio fod yn onest am ei ragdybiaethau yntau hefyd, fel Cymro gwyn. Balchder dros y diddymwyr. Dicter tuag at y caethfeistri. Ei awydd a'i anallu i ymdeimlo â'r caethwas.
Ffoto o greithiau erchyll ar gefn caethwasGordon, cyn gaethwas
o Mississipi, 1863
  • Mae llawer iawn iawn iawn mwy o dystiolaeth am y diddymwyr Cymraeg nag sydd am y caethfeistri Cymraeg. Mae'r diddymwyr yn perthyn i gyfnod diweddarach, mwy llythrennog, ac roeddynt yn ymwybodol iawn o bwer y wasg fel arf propaganda, felly nid oes rhyfedd fod cymaint o ddefnydd perthnasol wedi goroesi. Gyda'r caethfeistri, prin yw'r cyfeiriadau at Gymry a does fawr ddim ohono'n Gymraeg.

Yn niffyg tystiolaeth Gymraeg ar gyfer y cyfnod cynnar, penderfynwyd trosi dyfyniadau gan Thomas Phillips a Morgan John Rhys i'r Gymraeg. Gwyddom mai'r Gymraeg oedd iaith gyntaf Rhys ac mae bron yn sicr mai Cymraeg oedd iaith Phillips hefyd, fel dyn o'i gyfnod a anwyd yn Aberhonddu.

Gyda'r dyfyniadau gan gyn-gaethweision ar y llaw arall, penderfynwyd eu gadael yn y Saesneg. Gwyddom mai'r Wenhwyseg a siaradai Morgan John Rhys ond sut acen fyddech chi'n gofyn i actor ei ddefnyddio wrth leisio Frederick Douglass yn Gymraeg? Neu Olaudah Equiano?

Ffoto o Frederick DouglassFrederick Douglass

Nid amharchu'r Gymraeg oedd ein bwriad, ond parchu'r caethwas - un o hanfodion caethwasiaeth Americanaidd oedd ei amddifadu o'i iaith Affricanaidd, ond datblygodd ei ffordd ei hun o ddefnyddio Saesneg. Byddai ei drosi wedyn i'n hiaith ni, yn dwyn ei brofiad yn nes at gynulleidfa S4C o bosib, ond byddai hefyd yn "dwyn ei brofiad". Roeddem yn anesmwyth ynglyn â "pherchnogi'r" profiad caeth yn y modd hwn.

"Nid hon yw'r gân sy'n mynd i achub yr iaith" meddai Gruff Rhys mewn cyswllt arall, "ond neith o'm difrod iddi chwaith". Gobeithio felly hefo'r gyfres hon.

Rhaid i'r drafodaeth ar gaethwasiaeth barhau, oherwydd ei bwysigrwydd i ffurfiant ein cymdeithas, ac oherwydd nad hanes yn unig mo caethwasiaeth - mae'n rywbeth sydd dal hefo ni heddiw.

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006