Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Diddymwyr - Iolo Morgannwg

Iolo Morganwg - arloeswr masnach deg?

Ganwyd Edward Williams yn Llancarfan, ger y Bontfaen, ond mae'n fwy adnabyddus i ni fel Iolo Morgannwg. Fe'i gofir am ei gampau llenyddol, ynghyd â'i ddawn am ffugio. Roedd nifer o'r "clasuron llenyddol coll" a ddarganfuwyd ganddo, mewn gwirionedd yn bethau a oedd o wedi ysgrifennu ei hun!

Yr Orsedd

Ef oedd yn bennaf gyfrifol am ddyfeisio'r Orsedd - ond mae'n haeddu ei gofio hefyd am ei wrthwynebiad i gaethwasiaeth. Yn wir, yn yr Orsedd gyntaf un, ar Fryn y Briallu yn Llundain, mi fachodd ar y cyfle i ganmol Wilberforce a chydymdeimlo â'r caethweision.

Masnach Deg

Gall fod rhyw fath o euogrwydd yn symbylu Iolo, am fod tri o'i frodyr wedi ymfudo i Jamaica ac yn perchen ar gaethweision mae'n debyg. Serch hynny, nid oes tystiolaeth i Iolo ymelwa o gwbl o'u cyfoeth, ac yn wir pan agorodd siop yn y Bontfaen yn 1797, gosododd arwydd yn ei ffenest yn dweud nad oedd yn gwerthu siwgr o'r Caribi, oherwydd iddo gael ei gynhyrchu gan lafur caeth. Gwerthai yn hytrach, siwgr o'r Dwyrain, cynnyrch dynion rhydd:

East India Sweets, uncontaminated with human gore
Ffoto o'r arwydd yn siop Iolo Morgannwg Yr arwydd yn siop
Iolo Morgannwg

Dyma mae'n debyg, yr enghraifft gyntaf o fasnachu'n deg ym Mhrydain; bu'n rhaid i America aros tan 1838 pan sefydlwyd y Free Produce Association.

Heddiw, mae cynlluniau ar y gweill i sicrhau fod Cymru'n arwain y ffordd unwaith eto, gyda phob sir yn derbyn statws Masnach Deg mor fuan â phosib.

Am ragor o fanylion:
walesfairtradeforum.org.uk
oxfam.org.uk

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006