Emblem cynta'r mudiadGanwyd yn 1760 ar y ffin rhwng Morgannwg a Mynwy, a daeth yn weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Mhontypwl.
Credir mai ef oedd awdur pamffledyn â gyhoeddwyd yn ddi-enw tua 1792, yn ymosod ar gaethwasiaeth yn y Caribî. Ei deitl oedd:
Dioddefiadau miloedd lawer o ddynion duon, mewn caethiwed truenus yn Jamaica a lleoedd eraill; yn cael eu gosod at ystyriaeth ddifrifol y Cymry hawddgar, er mwyn ceisio eu hennill i adael suwgr, trigl, a rum
A dyma'r cyhoeddiad cyntaf o'i fath yn Gymraeg.
Tua'r un adeg cyhoeddwyd baled wrth-gaethiwol hefyd, a chredir mai Morgan John Rhys oedd awdur honno hefyd. Dyma ychydig o linellau:
Pan fo'ch yn gweled Suwgr,
Oh! Cofiwch fel y cawd,
Trwy lafur annaturiol
Cystuddiol caethion tlawd:
Blaenddalen yYn 1793 dechreuodd gyhoeddi "Y Cylchgrawn Cynmraeg", y cyfnodolyn cynta yn ein hiaith, a gwnaeth le ar ei dudalennau ar gyfer pob math o erthyglau blaengar. Yn eu plith, roedd "Hanes hynod Negroe" ac hefyd "Hanes Bywyd David George", cyn-gaethwas o Virginia. Dyma un o'r "slave narratives" cyntaf i'w cyfieithu i'r Gymraeg, felly mae'n werth dyfynu ohono:
Hanes Bywyd Mr David George, o Sierra Leone, yn Affrica; A adroddwyd ganddo ef ei hun, mewn cyfeillach â'r Brawd Rippon, o Lundain, a'r Brawd Pearce, o Birmingham.
Fe'm ganed yn swydd Essex, Virginia, o gylch 50 neu 60 o filldiroedd o Williamsburg, ar afon Nottaway, o rieni a ddygwyd o Affrica, heb ddim ofn Duw o flaen eu llygaid. Y gwaith cyntaf a gefais i ei wneuthur oedd dwyn dwfr a chribo cotton; wedi hynny fe'm danfonwyd i'r maes i weithio ar lafur a ffwgws (tobacco) yr Indiaid, hyd ne's oeddwn tua 19 oed.
"Caethweision" heddiw, ynJohn oedd enw fy nhad, a Judith fy mam. Yr oedd gennyf bedwar brawd a phedair chwaer, pa rai fel fy hunan a anwyd oll mewn caethiwed: enw ein meistr oedd Chapel; - un creulon iawn oedd i'r dynion duon...Fe'm fflangellwyd...lawer gwaith ar fy nghroen noeth, hyd nes 'doedd y gwaed yn rhedeg i lawr dros fy ngwregys ond y gofid mwyaf a gefais i oedd eu gweled yn fflagellu fy mam a chlywed hithau ar ei chluniau yn begian trugaredd.
Erthygl David George, 1793
Daeth y cylchgrawn i ben ar ôl pump rhifyn yn Ionawr 1794, wrth i'r chwyldro yn Ffrainc ysgogi ymateb adweithiol gan yr awdurdodau Seisnig.
Yn 1794 symudodd Morgan John Rhys i'r Unol Daleithiau Newydd i chwilio am rywle lle y gallai sefylu gwladfa Gymraeg. Mi deithiodd drwy'r De a threuliodd rai misoedd yn Savannah, Georgia, lle sefydlodd eglwys i'r duon, a chynllunio sefydlu ysgol i'w plant.
I werthfawrogi pa mor feiddgar oedd hyn, craffwch ar y pennawd isod i weld pa mor elyniaethus oedd caethfeistri i'r syniad o addysg grefyddol i'w caethweision, hyd yn oed drigain mlynedd yn ddiweddarach.
Pennawd o'r Drych a'rYstyriai Morgan John Rhys setlo yn Savannah. Ond roedd o'n rhy bell o flaen ei amser ac aeth ei gynlluniau i'r gwellt. Aeth yn ôl tua'r Gogledd a sefydlu'i wladfa ym Meula, Pennsylvania.
Fel gyda chynifer o'i gynlluniau, efallai nad oedd eu ffrwyth yn hir ei barhâd, ond roedd Morgan John Rhys wedi dangos y ffordd, o leiaf.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006