Wedi'i eni yn Sir y Fflint yn 1791, cafodd Robert Everett ei urddo'n weinidog gyda'r Annibynwyr yng Nghapel Lôn Swan, Dinbych, yn 1815. Derbyniodd alwad i ofalu am achos Cymraeg yn Utica, Efrog Newydd, yn 1823 felly ymfudodd i'r Unol Daleithiau gyda'i wraig Elizabeth a'u plant bychain.
Capel Lôn Swan,Yn 1838 symudodd i Steuben, cymuned Gymreig wledig y tu allan i Utica. Roedd gan Annibynwyr Cymraeg Steuben ddau addoldy, 'Capel Uchaf' a chapel 'Penymynyd', ac roedd eu gweinidog yn gofalu am y ddau. Byddai Robert Everett yn aros yn yr ofalaeth hon tan ei farwolaeth yn 1875.
Mae'n anodd gwybod pryd yn union y dechreuodd Robert Everett siarad yn erbyn caethwasaneth, ond roedd wedi dechrau cydweithio â diddymwyr amlwg yn Utica a'r cyffiniau erbyn canol yr 1830au.
Robert Everett,Yn 1840 dechreuodd Everett gyhoeddi Y Cenhadwr Americanaidd, misolyn a wasanaethai Annibynwyr Cymraeg yr Unol Daleithiau. Byddai'n parhau i olygu'r cylchgrawn dylanwadol hwn tan ei farwolaeth. Defnyddiodd y cylchgrawn o'r cychwyn cyntaf i ymosod ar gaethwasanaeth gan annog Cymry America i ymuno yn yr ymgyrch i ddiddymu'r drefn anfoesol honno.
Erbyn 1843 roedd Y Cenhadwr Americanaidd yn cael ei gyhoeddi yng nghartref yr Everettiaid yn Steuben, gyda meibion Robert Everett yn rhedeg y wasg argraffu a'i wraig Elizabeth yn helpu darllen a chywiro'r proflenni.
John Everett,Ac yn 1843 dechreuodd gyhoeddi cylchgrawn arall, Y Dyngarwr, misolyn a ganolbwyntiai ar ddau beth yn unig, sef y mudiad dirwestol a'r ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth. Er bod yna duedd heddiw i edrych ar ddirwest (sef, yr ymgyrch yn erbyn alcohol) fel mudiad a oedd yn 'sych' mewn mwy nag un ffordd, roedd yn fudiad radicalaidd a oedd yn ceisio dileu llawer o broblemau cymdeithasol, ac roedd yna gysylltiad amlwg yng Nghymru ac yn yr Unol Daleithiau rhwng y mudiad dirwestol a'r ymgyrch dros hawliau merched.
BlaenddalenYn wir, roedd Robert Everett yn pleidio nifer o wahanol achosion radicalaidd, gan gynnwys hawliau merched a heddychiaeth yn ogystal â dirwest. Ond yr ymgyrch yn erbyn caethwasanaeth oedd agosaf at ei galon, a chysgegrodd y rhan fwyaf o'i egni a'i amser i'r achos hwnnw am dros chwarter canrif.
Roedd rhai capelwyr Cymraeg yn ei gyhuddo o "bregethu politics o'r pulpud" ar y dechrau, ac roedd eraill yn ymosod arno oherwydd union natur ei wleidyddiaeth ef; roedd Cymry America wedi bod yn tueddu cefnogi plaid y Chwigiaid, neu'r Whigs, ac nid oedd y Chwigiaid Cymreig yn hoffi gweld gweinidog o Gymro'n annog pobl i bleidleisio dros blaid arall.
Ond dyna a wnaeth Robert Everett yn y 1840au cynnar, pan ganfodd y Liberty Party ei ffurfio, sef plaid radicalaidd newydd a oedd yn gwrthwynebu caethwasanaeth. Ar adegau pan fyddai Robert Everett yn pregethu neu'n cynnal cyfarfod mewn capel, byddai'r Chwigiaid Cymreig yn taflu wyau a llyfrau emynau ato o oriel y capel!
Pennawd o'rOnd dyfalbarhau a wnaeth Robert Everett, ac mi lwyddodd yn rhyfeddol yn y diwedd. Erbyn 1856 roedd plaid newydd, y Gweriniaethwyr, wedi ymgymryd â mantell yr hen Liberty Party. Peidiwch â gadael i sefyllfa wleidyddol yr Unol Daleithiau heddiw eich drysu: roedd Gweriniaethwyr y 1850au yn wahanol iawn i'r blaid sy'n defnyddio'r un enw heddiw. Plaid radicalaidd ydoedd i raddau helaeth, plaid a oedd yn gwrthwynebu ymdrechion i ymestyn caethwasanaeth i daleithiau newydd.
Ni lwyddodd y Gweriniaethwyr i ennill yr etholiad yn 1856, ond roedd yn flwyddyn arwyddocaol o safbwynt ein hanes ni: heidiodd Cymry America i gefnogi'r Gweriniaethwyr yn 1856, ac roedd eu cefnogaeth i'r blaid newydd honno wedi'i seilio i raddau helaeth iawn ar eu gwrthwynebiad i gaethwasaneth.
Robert Everett a'iRoedd Robert Everett bellach yn cael ei ystyried gan lawer fel arweinydd moesol Cymry America; mewn cwta 15 mlynedd, roedd y radical dirmygedig yr oedd pobl yn taflu wyau a llyfrau emynau ato wedi mynd yn arweinydd cenedlaethol y Gymru Americanaidd!
Daeth etholiad arlywyddol arall yn 1860, a'r tro hwnnw enillodd ymgeisydd y Gweriniaethwyr, Abraham Lincoln. Ac yn fuan esgorodd buddugoliaeth Lincoln ar rwyg a arweiniodd at y Rhyfel Cartref. Er bod Robert Everett wedi cefnogi heddychiaeth ar un adeg, roedd eisoes wedi bod yn dyst i ddigwyddiadau a oedd yn awgrymu na fyddai caethwasanaeth yn diflannu o'r tir heb dywallt gwaed; er enghraifft, helyntion ei fab yn 'Kansas waedlyd' yn y 1850au.
Un o lythyron ei fab John,Felly pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref yn 1861, cefnogodd Robert Everett ymgyrch y Gogledd (neu'r 'Undeb') gan ddarlunio'r rhyfel fel crwsâd yn erbyn caethwasanaeth.
Er ein bod ni'n cofio Robert Everett yn bennaf fel prif ddiddymwr Cymreig yr Unol Daleithiau, roedd hefyd yn gymeriad llenyddol hollbwysig. Roedd ei wasg ef (neu wasg deuluol yr Everettiaid, gan gofio bod ei wraig a'i blant yn helpu gyda'r gwaith!) yn un o gonglfeini diwylliant llenyddol Cymraeg America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Adeg ei farwolaeth yn 1875, roedd llawer yn credu mai ef oedd Cymro enwocaf yr Unol Daleithiau.
Darllen pellach:
Jerry Hunter, I Ddeffro Ysbryd y Wlad: Robert Everett a'r Ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Americanaidd
Gwasg Carreg Gwalch, 2007.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006