Map o'r Underground Railroad
Nid rheilffordd go iawn oedd hwn ond rhwydwaith o bobl oedd yn helpu caethweision i ddianc o daleithiau caeth y De, tua'r Gogledd a Chanada gan amlaf. Amcangyfrifir fod 100 000 o gaethweision wedi llwyddo dianc yn y modd hwn rhwng 1810 ac 1850.
Caethwas yn dianc
Yn yr 1830au gwnaeth rhywun sylw gwawdlyd fod caethweision yn diflannu fel petaent yn defnyddio rheilfordd tanddaearol ac fe lynodd yr enw; yn wir, defnyddiwyd terminoleg y rheilffordd i ddisgrifio gweithgareddau'r rhwydwaith. "Gorsafoedd" oedd y tai lle gallai'r ffoaduriaid lochesu ar eu ffordd, a "conductors" oedd y sawl oedd yn eu tywys.
Harriet TubmanUn o'r enwocaf o'r conductors oedd Harriet Tubman. Ar ôl dianc ei hun yn 1849, aeth 'nôl a mlaen i'r taleithiau caeth 19 o weithiau dros y ddeng mlynedd nesaf gan dywys rhyw drichant allan o'u caethiwed. Defnyddiodd sawl ystryw i groesi'r ffin ond dim byd mor ddyfeisgar a'r hyn a wnaeth Henry "Box" Brown; cauodd ei hun mewn cratsh a chael cyfeillion i'w bostio i'w ryddid!
Henry Box Brown
Nid yw'n hysbys os oedd Robert Everett a'i deulu yn rhan o'r rhwydwaith hyn - ond gan fod cyfrinachedd mor bwysig, fyddai o ddim yn rhywbeth i'w drafod yn agored beth bynnag. Serch hynny, mae ambell gofnod fod cyn-gaethweision wedi ymweld â'i dy, a bod aelodau ei gapel yn nhalaith Efrog Newydd wedi cael eu hysbrydoli gan anerchiad cyn-gaethwas o'r enw George French.
"George French"Mae yn debygol mai dyma y tro cyntaf erioed y gwelwyd caethwas yn un o gapeli'r Cymry yn yr ardal yma. Y Dyngarwr, Ionawr 1843
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006