Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Diddymwyr

Y Frwydr Hir

Ffoto o'r datganiad i ryddhau'r caethweision Y datganiad oedd yn
rhyddhau'r caethweision yn
yr UDA, 1863

Arwyddodd Lincoln yr "Emancipation Proclamation" ar yr 22ain o Fedi 1862 a daeth i rym ar ddiwrnod cyntaf 1863 (Wrth gwrs, ni ddaeth yn hollol weithredol tan ddiwedd y Rhyfel Cartref yn 1865). Roedd yn ddiwedd brwydr hir iawn dros hawliau'r Affricaniaid yn America.

Nôl yn Ebrill 1688 roedd pedwar Crynwr wedi cyflwyno deiseb i'w brodyr yn y ffydd yn Germantown, Pennsylvania "against the traffick of men-body". Dyma oedd y datganiad cyntaf o'i fath, ond er bod y Crynwyr wedi arwain y ffordd, byddai 70 mlynedd arall yn mynd heibio cyn i Grynwyr Pennsylvania gytuno i wahardd eu haelodau rhag ymwneud â'r gaethfasnach neu gadw caethweision, yn 1758.

Hen ffoto o filwr du ym myddin yr Undeb Milwr du ym myddin
yr Undeb

Aeth can mlynedd a mwy heibio cyn y cafwyd y maen i'r wal drwy'r Unol Daleithiau i gyd. Yn yr adran hon ceir hanes rhai o'r Cymry fu'n codi eu llais yn erbyn caethwasiaeth yn yr UDA a thu hwnt.

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006