Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Llefydd i ymweld â nhw - Connecticut

Yr Amistad a Connecticut

Ar ôl gadael Ciwba a chael ei chipio gan y 54 o gaethweision ar ei bwrdd, hwyliodd La Amistad ar daith igam ogam tua'r Gogledd. Yn ystod y dydd gallai'r Affricanwyr sicrhau wrth yr haul fod y llong yn mynd nôl adre tua'r dwyrain; ond yn y nos yn ddiarwybod iddynt, roedd y criw gwyn yn troi'r llong yn ôl am y gorllewin.

New London

Ffoto o Joseph Cinquez, arweinydd yr Affricaniaid Sengbeh Pieh,
neu Joseph Cinquez,
arweinydd yr Affricaniaid

Yn y diwedd wnaeth llong rhyfel Americanaidd orfodi'r cwch i'r harbwr yn New London, Connecticut. Mae gan yr amgueddfa yn y Custom House arddangosfa barhaol sy'n ymwneud â'r Amistad, a chynhelir penwythnos o ddigwyddiadau bob mis Awst.

Custom House Maritime Museum
150 Bank St
New London, CT
nlmaritimesociety.org

New Haven

Ond yn New Haven y cafodd yr Affricaniad eu carcharu yn ystod yr achosion yn eu herbyn nhw. Mae gan y New Haven Colonial History Society arddangosfa dda sy'n cynnwys lluniau gwreiddiol o'r Amistad a phortread olew o Sengbeh, arweinydd yr Affricaniaid.

New Haven Colony Historical Society Museum
114 Whitney Avenue
New Haven, CT

Rhyw chwarter milltir i ffwrdd, ar safle carchar New Haven gynt, mae cofeb dairochrog drawiadol; fe'i wnaed gan Ed Hamilton yn 1992 ac mae'n cynrychioli gwrthryfel, caethiwed a rhyddhâd yr Affricaniaid.

Cofeb Amistad
165 Church Street
New Haven, CT

Mystic Seaport

Yma ceir Amgueddfa America a'r Môr sy'n darlunio bywyd cymunedau morwrol y 19eg ganrif ac fe ddefnyddiwyd ei harbwr ar gyfer rhai o'r golygfeydd yn ffilm Steven Spielberg "Amistad".

Mae yna 60 o adeiladau wedi'u symud i'r safle ac rhyw 15 o longau; yn eu plith, ar rai adegau o'r flwyddyn, mae replica maint llawn o'r Amistad.

mysticseaport.org
amistadamerica.org

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006