Logo S4C

English

America Gaeth a'r Cymry

Llefydd i ymweld â nhw - Bryste

Bryste a'r gaethfasnach

Jerry Hunter ar Redcliffe Wharf, Bryste Jerry Hunter ar
Redcliffe Wharf, Bryste

Mae enwau strydoedd yng nghanol Bryste, fel Guinea Street a Jamaica Street a thafarn y Sugar Loaf yn tystio i bwysigrwydd masnachu ar draws yr Iwerydd wrth i'r ddinas hon ddatblygu, yn enwedig y gaethfasnach. Hwyliodd 2108 o longau o Fryste rhwng 1698 ac 1807. Yn 1749 yn unig, aeth bron i hanner cant.

Faint o forwyr Cymreig oedd ymhlith criwiau'r llongau hyn tybed, o gofio'r cysylltiadau morwrol rhwng Bryste a De Ddwyrain Cymru? Mae cei Welsh Back yn un o'r hynaf ym Mryste ac i'r fan yma y deuai llongau o Gymru. Mae enwau tafarnau fel y Velindre a'r Llandoger Trow yng nghanol y ddinas hefyd yn tystio i bresenoldeb Cymreig.

Tyrrau eglwysi Bryste Tyrrau eglwysi Bryste.
Canwyd clychau'r ddinas
i ddathlu methiant bil
Wilberforce yn 1791

Gwyddwn am un Cymro a ddaeth yma i weithio, ond nid i ymelwa o'r gaethfasnach. Yn ôl y sôn, pan ddeallodd Iolo Morgannwg pa mor wrthwynebus oedd masnachwyr Bryste i ddiddymu'r gaethfasnach, gadawodd y ddinas yn syth!

Bellach mae'r ddinas yn dechrau dod i delerau â'i gorffennol.

  • Yn 1999, cynhaliwyd arddangosfa "A Respectable Trade?" i drafod rôl y ddinas yn y gaethfasnach ryngwladol ac mae wedi ei chofnodi ar discoveringbristol.org.uk
  • Mae'r Bristol Slave Trade Walk yn cychwyn o Amgueddfa Ddiwydiannol Bryste ar Princes Wharf ac yn ymweld â deugain o wahanol leoliadau sy'n gysylltiedig â'r gaethfasnach.
  • Amgueddfa'r Ymherodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad. Mae'r amgueddfa'n cynnwys adran yn ymwneud â rôl caethwasiaeth yn natblygiad yr ymerodraeth ac yn paratoi arddangosfa o'r enw "Breaking the Chains" i ddathlu dauganmlwyddiant diddymu'r gaethfasnach ryngwladol, yn 2007. empiremuseum.co.uk

America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006