Hysbyseb o Charleston, 1769
Amcangyfrifir fod cynifer â 40% o holl gaethweision a fewn-foriwyd i'r UDA wedi dod drwy borthladd Charleston. Ar ôl gwahardd y gaethfasnach ryngwladol arhosodd Charleston yn ganolfan ar gyfer gwerthu caethweision o'r Upper South i'r Lower South - yr hyn a elwir yn Ail "Middle Passage".
Yn 1856 gwaharddwyd yr arfer o werthu caethweision o flaen y cyhoedd yn Charleston, ac ymhen dim roedd deugain o fusnesau wedi ymsefydlu mewn gwahanol adeiladau ynghanol y ddinas ar gyfer cynnal eu harwerthiannau eu hunain. Sefydlwyd Ryan's Mart yn 1856 a hwn bellach yw'r unig adeilad o'i fath ar ôl.
Cyn gaethwas ElijahCynhaliwyd yr arwerthiant olaf ym mis Tachwedd 1863, er gwaethaf y Rhyfel Cartref a'r ffaith fod milwyr y Gogledd yn tynhau eu gafael o gwmpas y ddinas.
Mae Amgueddfa'r Hen Slave Mart ar fin agor yn adeilad Ryan's Mart a bydd yn olrhain hanes y lle drwy atgofion rhai o'r caethweision a werthwyd yno. Bydd yr arddangosfa yn canolbwyntio ar y gaethfasnach fewnol ar ôl 1807 yn hytrach na'r mewnforio i Charleston a fu gynt.
Old Slave Mart Museum
6 Chalmers St
Charleston
Yn 1861 roedd bron i ddeunaw mil o gaethweision yn ninas Charleston - dros draean o'r boblogaeth. Yn y ty hwn, ynghanol y ddinas, ceir syniad o sut oeddden nhw'n byw, gan fod y llety helaeth yn y cefn ar gyfer y caethweision niferus oedd yn gweini ar y teulu, wedi goroesi.
48 Elizabeth Street
Charleston
historiccharleston.org
Jerry Hunter wrth gabanauMorgan Morris oedd perchennog cynta'r lle yn 1671 ac yna Morris Morgan yn 1696 ond cafodd ei enw o deulu'r McLeods a'i brynodd yn 1851. Mae pump o'r 23 caban pren oedd yn cartrefu'r caethweision gynt, wedi goroesi. Rhaid trefnu o flaen llaw cyn ymweld, gan fod y safle bellach yn gartref i'r American College of Building Arts.
Ffôn: 001 877 283 5245
Mae naw o'r cabanau caethweision wedi goroesi. Maent wedi eu hadeiladu o fric, sy'n annodweddiadol, ond roedd gwaith brics yn rhan o'r blanhigfa. Mae un caban â dodrefn, ac un arall yn dangos sut mae archeolegwyr wedi archwilio'r safle.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006