Pont dros yr Afon OhioCyn codi pontydd fel hon, Afon Ohio oedd y rhwystr olaf i lawer o gaethweision wrth iddyn nhw ddianc ar yr "Underground Railroad".
Felly, mae dinas Cincinnati ar lannau'r afon, yn ddewis naturiol fel lleoliad ar gyfer yr amgueddfa newydd hon. Torrwyd y dywarchen gyntaf ar y safle gan Muhamed Ali nôl yn y flwyddyn 2002.
Canolfan Ryddid,Mae'r amgueddfa yn gosod caethwasiaeth o fewn cyd-destun trafodaeth ehangach am hiliaeth a hawliau dynol heddiw. Serch hynny, mae ynddi sawl arddangosfa sy'n ceisio cyfleu creulondeb caethwasiaeth ddoe.
Y "slave pen" ynCanolbwynt yr amgueddfa yw'r adeilad hwn, "slave pen" o Kentucky, lle cadwyd caethweision, cyn eu gwerthu ymlaen fel rhan o'u taith ar yr ail "middle passage". Byddai adeiladau fel hyn yn gyffredin iawn yn y taleithiau caeth, ganrif a hanner yn ôl, ond bellach mae'r enghraifft brin hon, un o'r ychydig sydd wedi goroesi, yn dyst pwerus i'r drefn anfoesol a fu.
Rhai o adeiladau'rUgain milltir i'r gogledd o'r ddinas, cewch grwydro mewn ac allan o un ar ddeg o dai o'r 19eg ganrif; maen nhw'n dod o wahanol rannau o Ohio, ac wedi eu hailgodi ar y safle. Does ganddynt ddim cysylltiad penodol â chaethwasiaeth (gan fod Ohio wastad wedi bod yn dalaith rydd), ond yn achlysurol cyflwynir "hanes caethwas yn ffoi" yma.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006