Roedd Lerpwl mewn sefyllfa ddelfrydol i ymelwa o'r gaethfasnach oherwydd ei fod mor agos at y canolfanau a gynhyrchai'r nwyddau a ddefnyddiwyd i brynu caethweision; er enghraifft:
Llong wrth y cei ynAc yna pan ddychwelai'r llongau o'r America gyda chargo fel cotwm er enghraifft, roedd yna farchnad barod amdano ym melinau Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog.
Dociau Lerpwl heddiw
Erbyn ugain mlynedd olaf y gaethfasnach roedd caethlong yn gadael Lerpwl bob tri diwrnod ar gyfartaledd. Llongau o Lerpwl fu'n gyfrifol am gario hanner y caethweision a anfonwyd dros yr Iwerydd gan fasnachwyr Prydeinig. Roedd yn fasnach bwysig iawn i'r ddinas. Roedd 25 o'r rheini gafodd swydd Arglwydd Faer y ddinas rhwng 1700 ac 1820 yn ymelwa'n uniongyrchol o'r gaethfasnach.
Mae'r Slaver History Trail yn cychwyn o'r Pier Head ac yn mynd heibio tai nifer o gaethfasnachwyr y ddinas, yn ogystal â rhoi blas mwy cyffredin o sut le oedd Lerpwl yn y cyfnod hwnnw.
Bob blwyddyn ar Awst 23ain, (Diwrnod Rhyngwladol er cof am y Gaethfasnach a'i Diddymu) trefnir digwyddiadau yn Lerpwl i gofio'r gaethfasnach ac i atgoffa pobl y ddinas o'r hyn a wnaeth cyndadau rhai ohonynt (Awst 23ain oedd y dyddiad pan wrthryfelodd y caethweision ar ynys San Domingo gan gychwyn pennod newydd yn y frwydr yn erbyn caethwasiaeth).
Amgueddfa'r Môr, Lerpwl.Mae oriel gyfan yn ymdrin â'r gaethfasnach - nid oes llawer o sôn am rôl Lerpwl yn hynny ac mae rhai wedi beirniadu'r amgueddfa am drafod y gaethfasnach ar wahân, yn hytrach na fel rhan ganolog o hanes y borthladd (gweler "Blind Memory" gan Marcus Wood).
Serch hynny, mae'r arddangosfa hon yn ceisio cyfleu sut y dadwreiddiwyd pobl o'u cartrefi yn Affrica a'u cario dan amodau erchyll ar draws yr Iwerydd ac yn gyflwyniad gwerthfawr i'r pwnc.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006