Symudodd canolfan llywodraeth Virginia o Jamestown i Williamsburg yn 1699 ac yma oedd prifddinas Virginia tan 1780. Yn y dref hon y bu Goronwy Owen yn dysgu pan symudodd i America gynta.
Tua diwedd Rhyfel Annibynniaeth symudwyd y brifddinas ymhellach oddi wrth y môr (a milwyr Prydain) i'w safle presennol yn Richmond. Oherwydd hynny, arhosodd llawer o adeiladau'r 18fed ganrif yn Williamsburg yn ddigyfnewid ac yn 1926 cafwyd y syniad o droi'r adeiladau oedd ar ôl yn amgueddfa fyw – Colonial Williamsburg.
"Caethweision" ynRoedd hanner poblogaeth Williamsburg ar ddiwedd y 18fed ganrif o dras Affricanaidd, gyda llai na deg y cant ohonynt yn byw fel dynion rhydd. Mae'r amgueddfa yn ceisio adlewyrchu hynny. Wrth grwydro Colonial Williamsburg ceir cyfle i siarad gyda "chaethweision", sef dehonglwyr mewn gwisgoedd y cyfnod sy'n ceisio portreadu bywydau'r caethweision, gan lafurio yn y caeau, neu weini yn y tai. Mae planhigfa Great Hopes wedi ei ail greu ar gyrion Colonial Williamsburg i gyfleu bywyd ar blanhigfa ganolig gyda rhyw ddeg o gaethweision.
"Setlwyr o'r 17eg ganrif"Dehonglwyr mewn gwisg cyfnod yw un o'r ffyrdd y cyflwynir hanes Jamestown hefyd, ychydig o filltiroedd yn unig i lawr y lôn. Portreadu bywydau'r setlwyr cynta ar ddechrau'r 17eg ganrif y maent, mewn pentref wedi ei ail greu yn ymyl safle'r dref wreiddiol.
Yn 2007 cynhelir nifer o ddigwyddiadau i ddathlu pedwar canmlwyddiant sefydlu'r dref hon, lle gwerthwyd y caethweision cyntaf ar dir mawr America yn 1619.
America Gaeth a'r Cymry © S4C 2006