Fe fydd y cyflwynydd a'r gomedïwraig stand-yp Beth Angell yn cychwyn ar daith ar hyd a lled India. Bydd yn ymweld ag ardal Bryniau Khasia yng ngogledd ddwyrain y wlad, lle bu ei thaid yn genhadwr Cristnogol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a lle cafodd ei thad ei fagu hyd nes oedd yn ddeg oed.
"Mae gen i ddiddordeb personol yn hanes y wlad. Roeddwn yn cadw fy ffon hoci bob amser mewn troed eliffant, anrheg ddaeth taid yn ôl o India ar ôl 30 mlynedd yn cenhadu yno. Roedd straeon fy nhad am ei blentyndod am fwncïod a theigrod ac nid am gŵn a chathod.
"Roeddwn i wastad wedi bod ishe mynd yno i weld y lle drosto fi fy hun.Roedd yn her arbennig iawn i wneud cyfres deledu yn ffilmio'r wlad mewn cyfnod o newid mawr ac i weld a yw'r newidiadau yma er gwell neu er gwaeth i bobl y wlad."
"Mae'n anodd iawn credu mai India fydd y pŵer byd nesaf wrth weld y tlodi enbyd a phobl ar lwgu ar ochr y stryd. Mae'n wlad mor anferth, mae'n anodd gweld sut y gallan nhw dynnu pethau at ei gilydd i wella pethau i bawb ar hyn o bryd.
"Ond rydych chi hefyd yn teimlo'r cynnwrf yn y wlad. Roeddech hefyd am gwrdd â phobl anhygoel oedd am weld India yn llwyddo i bob un o'i thrigolion ac am dynnu'r wlad at ei gilydd ac adeiladu sylfaen ar gyfer y dyfodol."
Y canlyniad yw cyfres bedair rhan sy'n agor gyda'r profiad emosiynol o ymweld â chartref cyntaf ei thad, sydd bellach yn swyddfeydd i'r capel drws nesaf. Mae India yn gartref i dros 1 biliwn o bobl ac yn fwy na thair miliwn cilomedr sgwâr. Yn ystod y gyfres mae Beth hefyd yn ymweld â Delhi, Mumbai a Chennai (Madras gynt).