Neidio at y cynnwys

S4C

  • Poblogaeth i bob km sgwâr: 389.23
  • Poblogaeth dros 65 oed: 59,563,521
  • Nifer o ffonau symudol (2005): 125,000,000
  • India yw'r pedwerydd economi mwyaf yn y byd.
  • Mae 1 o bob 3 o blant y byd heb faeth yn byw yn India.
  • India sydd â'r boblogaeth ieuengaf yn y byd. Mae 600 miliwn o bobl dan 25 oed.
  • Mae gan India 17 prif iaith ac 844 tafodiaith.
  • Mae Senedd India'n cynnwys Arlywydd a dau Dŷ, sef Rajya Sabha (Cyngor y Taleithiau) a Lok Sabha (Tŷ'r Bobl).
  • Prif grefyddau India ydy Hindŵaeth, Islam, Cristnogaeth, Bwdistiaeth, Siciaeth, Jainism.
  • Anthem genedlaethol India ydy Jan gana mana, a ysgifenwyd gan Rabindranath Tagore, bardd Nobel.
  • Anifail cenedlaethol India ydy'r teigr. Ei blodyn cenedlaethol ydy'r lotws a'i ffrwyth cenedlaethol ydy'r mango.
  • Cyfradd ffrwythlondeb: 2.7 genedigaeth i bob benyw
  • Disgwyliad bywyd ar enedigaeth: 64
  • Llythrennedd gwrywod (dros 15 oed): 73%
  • Llythrennedd benywod (dros 15 oed): 48%
  • Bydd poblogaeth India yn fwy nag un China erbyn 2032.
  • Mae 29% o boblogaeth India'n siarad Saesneg, sef 350 miliwn o bobl.
  • Yn 1991, prynodd pobl yn India 150,000 o gerbydau. Yn 2007 roedd y ffigwr hwnnw yn 10 miliwn.
  • Mae dros 70% o boblogaeth India'n byw mewn ardaloedd gwledig.
  • India yw'r mewforiwr arfau mwyaf yn y gwledydd sy'n datblygu.
  • Yn etholiad cyffredinol India yn 2004, roedd mwy na 687,000 o orsafoedd pleidleisio, a 671.5 miliwn o bleidleiswyr.
  • Yn India, mae 5.7 miliwn o achosion o AIDS ac HIV, y nifer uchaf yn y byd.
  • Cafodd 248 o bobl eu lladd gan eliffantod yn ardal Assam rhwng 2001 a 2006. Bu farw 260 o eliffantod yn ystod yr un cyfnod, a nifer fawr o'r rhain wedi cael eu gwenwyno gan bentrefwyr yr ardal.
  • Mae dros 1,000 o ffilmiau'n cael eu cynhyrchu yn India bob blwyddyn, mwy na dwbl y nifer sy'n cael eu cynhyrchu yn Hollywood.
  • Woman with child
  • Young girl

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales