Neidio at y cynnwys

S4C

Ar y Lein

Ar y Lein

Ar y Lein

Dilynwch daith ddiweddaraf Bethan Gwanas wrth iddi ddilyn llinell y Cyhydedd. Profodd nifer o uchafbwyntiau yn ystod ei thaith, gan gynnwys aros mewn pabell hynod o foethus tra ar saffari yn Kenya a'r cyfle i ryfeddu at brydferthwch Uganda.

O Frasil fywiog i brydferthwch Gorllewin yr Affrig, mae pob rhaglen yn y gyfres o wyth yn cymharu sut mae natur cymdeithas yn newid ar hyd y llinell anweledig sy'n cysylltu gwledydd y Cyhydedd. O gerddoriaeth i grefydd, o ieithoedd i wleidyddiaeth ac o fywyd gwyllt i fwyd, mae Bethan yn cyfleu ei phrofiadau o bob agwedd o'r daith yn ei harddull unigryw.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales