Neidio at y cynnwys

S4C

Ar y Lein

Rhaglen 1 : Brasil

Dechreuir y daith ym Mrasil ac i dref Belem yn gynta’, jest mewn pryd ar gyfer gŵyl Círio de Nazaré, yr ŵyl grefyddol fwyaf ym Mrasil. Dyma lle mae pobl o bob man yn heidio a lle mae ‘na tua miliwn o bobl yn gorymdeithio drwy’r strydoedd efo’r cerflun bychan o Nossa Senhora de Nazaré ar y dydd Sul.

Y gred ydi bod y cerflun wedi ei greu yn Nasareth ac wedi cyflawni gwyrthiau ym Mhortiwgal yn ystod y canol oesoedd cyn mynd ar goll ym Mrasil – cyn cael ei ddarganfod eto gan amaethwr tlawd yn 1700. Wedi’r orymdaith mae pawb yn mynd ati fel ffyliaid i yfed, bwyta a dawnsio – am bythefnos!

Yn ôl Bethan, "Roedden ni wedi llwyddo i ddod yn agos iawn at y cerflun ar y dechrau, ond y funud ddechreuon nhw orymdeithio, aeth y lle'n bananas, a doedd ganddon ni'm gobaith mwnci aros efo'n gilydd mewn un criw. Ar un adeg, ro'n i'n amau'n gryf mod i unai'n mynd i golli mraich dde neu'r cês efo lens sbar ddrudfawr yn fy llaw chwith".

Mae taith Bethan drwy Brasil yn un llethol a chwyslyd ar brydiau ond yn un sy’n mynd â hi am dro ar gefn byffalo dof! Ymwelodd â thref 'shanti' Manaus, lle mae trais yn erbyn merched yn broblem enfawr, cyn gorffen gyda llwyth y Sahu Apé.

Dyma ymateb Bethan i'r wlad yn Ne America, "Mae Brasil yn hyfryd - felly cofiwch ystyried yr Amazon yn hytrach na Rio y tro nesa y bydd y traed yn cosi".

Edrychwch ar luniau o daith Bethan ym Mrasil

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales