Neidio at y cynnwys

S4C

Ar y Lein

Rhaglen 2 : Ecwador ac Ynysoedd y Galápagos

Wedi gadael tymheredd llethol yr Amazon roedd yn rhyddhad i’r criw gyfan i gyrraedd Ecuador ac awel groesawgar Yr Andes. A’r lle cynta’ mae Bethan yn teithio iddo yw’r brifddinas, Quito. Y sioc gynta gafodd y criw oedd y ddiffyg ocsigen. Mae Quito’n uchel iawn – 2850 m, felly mae’r rhan fwya o bobl yn dioddef rhai o symptomau salwch ‘altitude’ am y diwrnod cynta – neu ddau.

Yma eto roedd ‘na ddathlu yn mynd yn ei flaen: gŵyl ddathlu ail-adeiladu’r ddinas gan y Sbaenwyr wedi i’r Incas ei dinistrio hi am ei bod hi’n well ganddyn nhw wneud hynny na gadael i’r Sbaenwyr gael eu dwylo ar Quito.

Bu Bethan yn ymuno yn y dathliadau. “Rhan mawr o’r dathliadau ydi mynd rownd a rownd y ddinas mewn chivas, sef math o fws sy’n debycach i lori, efo band pres yn eistedd ar y to a phobl oddi mewn ac ar gefn y lori yn canu a gweiddi a chwibanu, tra’n rhannu poteli o ddiod feddwol. Aguardiente oedd un a canelazo oedd y llall, a ges i flasu’r ddau- Ches i’m gormod ohono fo wir yr!”

Wedi’r dathlu, aeth Bethan a’r criw i fyny i fynyddoedd yr Andes ac ar y ffordd i fyny, stopio ym mhentref bach San Juan De Iluman i ymweld ag ysgol fechan. Yno, roedd y bechgyn yn edrych yn rhyfeddol o debyg i’r merched am eu bod nhw’i gyd â gwallt hir. Yn ogystal â threulio noson mewn Hacienda lleol, cafodd Bethan ei thywys drwy hanes diddorol gwehyddwyr yr Andes.

Ymlaen felly i ynysoedd enwog y Galápagos a gafodd ei wneud yn enwog gan Charles Darwin. Mae’r bywyd gwyllt yno’n rhyfeddol ac fe gafodd Bethan ddigon o gyfle i weld beth oedd ar gael. Yn ogystal â darganfod mwy am y gwaith ymchwil sydd dal i gael ei wneud yn y Galápagos bu Bethan yn snorclo ger Ynys Seymour, reido ar gefn ceffyl i fyny llosgfynydd Sierra Negro yn ogystal â chwrdd ag El Solitario George, neu Lonesome George, crwban hynafol sydd â neb tebyg iddo fo ar ôl yn y byd. Fo ydi’r unig un o grwbanod Ynys Pinto sy’n dal yn fyw!

Edrychwch ar luniau o daith Bethan yn Ecuador ac Ynysoedd y Galápagos

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales