Neidio at y cynnwys

S4C

Ar y Lein

Rhaglen 3 : Borneo

Wel i Borneo roedd y criw yn meddwl eu bod nhw'n mynd, ond wedi pori drwy'r llyfrau teithio dyma ddysgu mai 'Kalimantan' ydy enw'r rhan o Borneo ar y cyhydedd!

Y lleoliad cyntaf oedd Samarinda, prifddinas Dwyrain Kalimantan a chartref yr afon Mahakam. Wedi i Bethan wneud ffŵl o'i hunan yn llwyr wrth gael tro ar y dull traddodiadol o wehyddu, roedd hi'n hen bryd symud ymlaen i gwrdd â llwyth hynafol y 'Dayaks'.

Roedd y criw wedi disgwyl taith hir i Tanjung Issuy, ond roedd hi'n antur a hanner yn y diwedd, aeth y gyrrwyr ar goll ac wedyn daeth y stormydd glaw, rhywbeth cyffredin ar y cyhydedd! Roedd hi'n hanner nos erbyn iddyn nhw gyrraedd! Er bod eu cartref yn anghysbell a'r gwisgoedd a'r dawnsfeydd yn draddodiadol, siom oedd gweld fod hyd yn oed y Dayaks yn cael eu gorfodi i newid eu ffordd o fyw. Meddai Bethan, "Roedden ni wedi cael gwybod mai jyngl oedd o a bod angen mynd allan i ganol y deiliach a'r pryfaid i bi-pî. Felly mi gawson ni dipyn o siom i weld bod y lle yn drydan i gyd, bod gan bawb ei stafell ei hun a bod na dai bach a chawodydd yno!"

O leiaf cafodd gwrdd â’r Dayak hynaf yn y byd. Roedd e'n honni ei fod yn 130 oed!

O'r bobl i'r anifeiliaid, ac ymweliad â'r fferm grocodeils ger Samboja a chyfle i flasu 'croc kebab'! Yna ymlaen i Samboja Lodge i gwrdd â thrigolion enwocaf a mwyaf unigryw y rhan yma o'r byd – yr orang utans. Cafodd Bethan a'r criw y cyfle i ddysgu sut mae pobl yn peryglu bywyd ac amgylchfyd yr anifeiliaid unigryw hyn, cyn gweld sut roedd y ganolfan yn hyfforddi'r orang utans i oroesi pan fyddan nhw'n cael eu rhyddhau yn ôl i'r gwyllt.

Edrychwch ar luniau o daith Bethan yn Borneo

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales