Neidio at y cynnwys

S4C

Ar y Lein

Rhaglen 4 : Singapore a Sumatra

Rhaid oedd teithio trwy Singapore er mwyn cyrraedd Sumatra yn rhan Gorllewinol Indonesia, ac er nad yw Singapore yn union ar y cyhydedd, hurt fyddai peidio aros yno am ychydig ddyddiau...

Dyma gyferbyniad i’r holl leoliadau roedd Bethan wedi bod ynddyn nhw hyd yma, dinas fodern a chyfoethog tu hwnt. Er bod y Singapore presennol yn denu pobl o bob cwr o’r byd, doedd ei gorffennol ddim cweit mor hapus, fel y dysgodd Bethan wrth ymweld ag amgueddfa rhyfel Changi.

‘Profiad i sobri rhywun oedd ymweld ag amgueddfa rhyfel Changi, lle bu’r Siapaneaid yn hynod greulon efo carcharaorion rhyfel o Brydain ac Awstralia a phobl gyffredin Singapore yn y 1940au’

Profiad rhyfedd arall oedd ymuno â’r dorf i wylio gŵyl Hindw bwysicaf y ddinas, gŵyl Thaipusam, ble mae pobl yn trywannu eu cyrff gyda rhodenni metal, rhai gyda 180 o dyllau yn eu cyrff! Offrwm i’r Duwiau yw hyn ac roedd rhai o’r golygfeydd yn erchyll o boenus.

Cyferbyniad llwyr i ddinas fodern Singapore oedd dinas Pekanbaru, lleoliad cyntaf Bethan ar ynys anferthol Sumatra. Oherwydd y diwydiant olew roedd Pekanbaru yn gyfoethog o’i chymharu â nifer o ardaloedd eraill yn rhanbarth Riau, doedd hi’n ddim byd o’i gymharu â chyfoeth Singapore, ond wedi dweud hynny, roedd Bethan wrth ei bodd yno gan nad oedd yr ardal wedi datblygu ar gyfer ymwelwyr.

O’r ddinas i’r mynyddoedd, i ardal Tahura er mwyn ymweld â chanolfan hyfforddi eliffantod. Mae gwrthdaro rhwng pobl ag eliffantod yn y rhan yma o’r byd. Yma yn y ganolfan, maen nhw’n cael eu hyfforddi i gyd-fyw â phobl ac yn cael eu hyfforddi i gadw’n heini er mwyn eu cryfhau yn barod i gael eu rhyddhau yn ôl i’r gwyllt.

Ymlaen â nhw trwy’r ardaloedd gwledig a’r caeau reis cyn cyrraedd tref Bukit Tinggi. Dyma gyfle i weld effaith y daeargrynfeydd a chyfle i gwrdd â llwyth mamlinachol y Minangkabau, llwyth hynafol sy’n unigryw i’r rhan yma o’r byd.

Edrychwch ar luniau o daith Bethan yn Singapore a Sumatra

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales