Neidio at y cynnwys

S4C

Ar y Lein

Rhaglen 5 : Kenya (1)

I ddwyrain yr Affrig nesaf a dilyn y Cyhydedd reit drwy Kenya. Ond am fod Kenya’n wlad mor fawr, dim ond hyd at Barc Cenedlaethol Aberdâr (sydd tua hanner ffordd ar draws Kenya) y bydd Bethan yn teithio yn y rhaglen hon. Yn anffodus, does dim cysylltiad gan Barc Cenedlaethol Aberdâr â Chymru, ac er bod y tirwedd mynyddig, gwyrdd yn debyg iawn i dirwedd Cymru, roedd y ffaith bod Eliffantod a Byffalo yn crwydro’r tir yn profi’r diffyg cysylltiad!

Dechreuir y daith yn Meru, lle mae cynhyrchu’r cyffur “Miraa” yn ddiwydiant sy’n creu tua £100,000 y dydd. Mae’r cyffur yn anghyfreithlon ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau ond yn cael ei allforio i rannau o Ewrop a Somalia. Rhyw fath o ddail a brigau yw Miraa sy’n tyfu yn Meru a’r cyffiniau. Mae’n ddiwydiant mawr i’r bobl leol - y drafferth yw eu bod nhw’n cnoi bron cymaint ag y mae nhw’n eu casglu! Fe gafodd Bethan gyfle i gwrdd â ffermwr sy’n tyfu Miraa yn ogystal â rhai o’r dynion sy’n ei gasglu.

Fe ddywedodd Bethan, “Maen nhw’n honni ei fod o’n gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus a hyderus a’i fod yn gwneud i’r syniadau lifo. O? O be welais i, roedd o’n eu gwneud nhw’n swrth a llipa a hanner pan!”

O fan’no, teithio i Nanyuki i gerdded trwy ddrain a choediach yn chwilio am reinos du - un o anifeiliaid mwyaf prin Kenya! Yna, gyrru hanner ffordd i fyny Mount Kenya - oedd yn daith a hanner a’r unig le lle mae ‘na eira ar y Cyhydedd. Yn ogystal, fe gafodd Bethan gwrdd ag un o lwythi mwyaf Kenya - llwyth y Kikuyu ac yn ogystal â chwrdd gyda phennaeth y llwyth fe gafodd Bethan y cyfle i ddawnsio yn y “dull draddodiadol”!

Edrychwch ar luniau o daith Bethan yn Kenya

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales