Neidio at y cynnwys

S4C

Ar y Lein

Rhaglen 6 : Kenya (2)

Ydy, mae Bethan yn dal yn Kenya ac yn dechrau’r rhaglen hon yn Naivasha - hanner ffordd ar draws Kenya. Mae Naivasha yn dref lle mae ‘na dros 500,000 o bobl yn dibynnu ar y diwydiant blodau. Fe fu Bethan yn ymweld â fferm flodau Olij Rozen - dim ond un fferm fechan ynghanol ugeiniau o rai mawr lle mae’r blodau sy’n cael eu casglu ben bore yn llwyddo i gyrraedd ocsiynau mawr Ewrop yr un diwrnod. Mae’r llyn cyfagos, Llyn Naivasha, hefyd yn rhywle diddorol, yn enwedig os am weld yr “hippo” ond oherwydd bod ‘na gymaint o bobl yn dibynnu ar y llyn, mae’r llyn ei hun erbyn hyn dan fygythiad.

Un o broblemau eraill yr ardal yw’r nifer o fechgyn sy’n cysgu ar y strydoedd. Yn ffodus, mae gwaith yn cael ei wneud i osgoi’r broblem ac yn ogystal â chwrdd gyda rhai o’r bechgyn hyn ar y stryd, aeth Bethan ar ymweliad i Loches Plant Naivasha. Lloches i fechgyn rhwng 5 ac 17 oed sydd naill ai wedi colli eu teuloedd oherwydd yr afiechyd AIDS neu wedi cael eu taflu ar y stryd am eu bod nhw unai’n anystywallt neu eu rhieni’n methu fforddio eu cadw. Dyma oedd un o brofiadau mwya’ emosiynol Bethan wrth iddi deithio ar hyd y Cyhydedd. “Mi fuon ni yno drwy’r pnawn, yn eu gweld yn dysgu, chwarae, gwneud gwaith coed, bob dim, ac ar y diwedd, mi gawson ni gyngerdd ganddyn nhw – caneuon ac acrobatics. A myn coblyn, mwya sydyn, dyma fi’n dechrau crio. Ro’n i’n trio gwneud darn i gamera ac roedd y dagrau’n tywallt i lawr fy wyneb i”.

Mae Kenya hefyd yn enwog am ei bywyd gwyllt. Ym Mharc Cenedlaethol Llyn Nakuru, mae’n bosib mynd yn agos iawn i’r anifeiliaid - rhywbeth oedd yn peri gofid i’r criw ar adegau!

Yn ogystal â’r môr o fflamingo pinc, roedd Bethan hefyd yn benderfynol o gael gweld un o’r cathod mawr! Tybed os caiff ei dymuniad?

Edrychwch ar luniau o daith Bethan yn Kenya

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales