Ar y Lein
Y gyfres
- Rhaglen 1 : Brasil
- Rhaglen 2 : Ecwador ac Ynysoedd y Galápagos
- Rhaglen 3 : Borneo
- Rhaglen 4 : Singapore a Sumatra
- Rhaglen 5 : Kenya (1)
- Rhaglen 6 : Kenya (2)
- Rhaglen 7 : Uganda
- Rhaglen 8 : Gabon
Rhaglen 7 : Uganda
Pan mae rhywun yn meddwl am Uganda, mae ‘na dueddiad i gofio am y rhyfel cartref ac erchylltra cyfnod Idi Amin. Ond nid yn unig y mae Uganda yn un o’r gwledydd tlysaf ar y Cyhydedd mae’r bobl hefyd yn rhai o’r mwya’ cyfeillgar.
Dechreubwynt y rhaglen hon yw tref Jinja – tarddiad yr afon Nil. Dyma lle mae jyncis (dim collnod) adrenalin y byd yn heidio i brofi dŵr gwyn anhygoel yr ardal. Mentrodd Bethan hefyd i ddŵr cynnes y Nil wrth iddi gael gwers Kayak yno. Bu hefyd yn helpu’r elusen Soft Power Education drwy gydio mewn brwsh paent a rhoi help llaw gyda’r gwaith adnewyddu yn yr ysgol gynradd lleol.
Mae ‘na fananas di-ri yn Uganda ac yn aml iawn gwelir menywod yn eu cario ar eu pen ar ochr y ffordd - rhywbeth roedd Bethan yn awyddus i’w ddysgu gan un o’r gwragedd lleol. A lwyddodd hi? Wel do - yn y diwedd!
Wedi gadael ardal werdd a gwledig Jinja, roedd cyrraedd prifddinas brysur Kampala yn sioc i’r system. Kampala oedd un o’r dinasoedd gafodd ei ddinistrio fwya’ adeg y trafferthion yn Uganda, ond erbyn heddiw mae’r ddinas yn ôl ar ei thraed. Mae bywyd nos a cherddoriaeth ar ei orau yma’n Kampala ac fe gafodd Bethan y cyfle i gwrdd ag un o grwpiau mwya’ llwyddiannus Uganda, tra roeddent yn ymarfer mewn clwb lleol. Mae’r grŵp Percussion Discussion wedi cael llwyddiant mawr yn ddiweddar a newydd recordio cân i’r ffilm “Last King of Scotland”.
Un o’r profiadau mwya’ difyr gafodd Bethan ar ei thaith drwy Uganda oedd cwrdd â’r ferch ifanc o Brydain, Lulu Sturdy. Mae teulu Lulu wedi bod yn berchen ar stad Ndali ger Fort Portal yng Ngorllewin Uganda ers 1920au ac mae ‘na hanes diddorol i’r stad. Mae Lulu wedi datblygu’r stad yn ddiweddar ac wedi llwyddo i ffermio fanila yn llwyddiannus iawn yn Ndali. Bydd y fanila yn cael ei werthu gan Waitrose a Tesco cyn hir. Tra roedd y criw allan yn ffilmio gyda Lulu, fe gafodd hi alwad ffôn gan yr heddlu. Mae’n debyg fod ‘na ddynion busnes lleol yn trio honni mai nhw pia peth o stad Ndali, ac wedi gyrru llwyth o garcharorion i balu yno ar y slei. “Aethon ni yno efo hi, a gweld y carcharorion wrthi a chlywed Lulu’n trio dal pen rheswm efo’r heddlu a’r dynion busnes. Ro’n i wedi fy synnu gan Lulu – ei chryfder, ei phenderfyniad a’i hangerdd. Fyswn i’n gallu gwneud be mae hi’n ei wneud? Na, byth”.
Edrychwch ar luniau o daith Bethan yn Kenya


