Neidio at y cynnwys

S4C

Ar y Lein

Rhaglen 8 : Gabon

Dyma rhan olaf y daith 25,000km o amgylch y cyhydedd, a ble gwell i orffen na Gabon – gwlad ble maen nhw’n yfed mwy o siampen y pen nag unman arall yn y byd, ac ynys baradwysaidd Sao Tomé – cartref siocled byd enwog. Ond doedd hi ddim yn siwrne mor bleserus a’r disgwyl...

Wedi glanio yn Libreville sylweddolodd y criw bod y camera wedi torri! Wedi i gamera newydd ymddangos, doedd y batris ddim yn gweithio a thorrodd y car i lawr. Wedyn bu bron i Bethan a’r criw gael eu harestio wedi i’r dyn camera brynu crwban yn y farchnad. Ac yna daeth hi’n amlwg na fyddai’n bosib mynd i Sao Tomé wedi’r cyfan.

Er gwaetha’r trafferthion, cafodd Bethan gyfle i gwrdd â llwyth o bobl lleol hynod o ddiddorol fel yr Nganga yng Nghoedwig Mondah - dynes hysbys sy’n defnyddio cymysgedd o blanhigion unigryw y goedwig i wella salwch o bob math a chriw ysbrydoledig gorsaf radio ‘Radio Emergence’ – gorsaf wirfoddol sy’n cael ei rhedeg gan bobl ifanc ac sy’n delio â phroblemau’r ifanc megis AIDS a HIV - roedd Bethan yn nerfus tu hwnt am ei chyfweliad byw ond roedd ei Ffrangeg yn rhyfeddol! Uchafbwynt y daith oedd ymuno â chriw’r ‘Fang’ – llwyth hynafol ym mhentref Mbeng Ntame, a’u gwylio’n dawnsio dan ddylwanwad y ddiod lledrithiol ‘Iboga’.

Edrychwch ar luniau o daith Bethan yn Gabon

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales