Neidio at y cynnwys

S4C
Reality, Pandora, Sophie and Dyfrig

Ar y Tracs

Catrin Dafydd C+A

Catrin Dafydd

Sut fyddet ti'n disgrifio'r ddrama Ar y Tracs?

Drama gomedi hollol Gymreig o ran anian yw Ar y Tracs am gymeriadau sy'n gweithio ar y lein o Abertawe i Lundain. Y staff yw'r cymeriadau creiddiol yn yr orsaf yn Abertawe ac ry'n ni hefyd yn cyfarfod â'u teuluoedd. Mae pob math o sefyllfaoedd yn codi ac ry'n ni'n gweld bywyd ar y trên ac yn dilyn taith lythrennol, yn ogystal â thaith emosiynol y prif gymeriadau. Mae pob math o densiynau a themâu yn codi, a hynny ar drothwy'r Nadolig. Mae'n blethiad o holl gymhlethdodau bywyd.

Sut gymeriadau fyddwn ni'n dod ar eu traws?

aen nhw i gyd yn gymeriadau dwi'n wir obeithio y bydd pobl yn eu licio. Sophie Thomas yw'r rheolwr trên. Hi yw'r glud rhwng y cymeriadau. Mae bryd 'Reality' ar ddod yn enwog gan ei fod yn trio am bob rhaglen realaeth sy'n mynd. Mae'n dipyn o 'Swansea boi'. Yna mae Gwenci, ei ffrind, sy'n ei ddilyn i bob man fel cysgod. Mae mam Realiti, Eluned hefyd yn rhan o'r triongl ac yn real matriarch Gymreig.

Y prif beth roedd Ruth a finnau am ei drosglwyddo i'r sgript oedd yr elfen o'r cynhesrwydd cynhenid Cymreig sy'n rhan o gymeriad pobl Cymru. Roedden ni am i'r agosatrwydd ddod drosodd gyda'r gobaith fod y gynulleidfa yn gallu eistedd a gwylio a theimlo fod y cymeriadau a'r sefyllfaoedd yn gyfarwydd.

Roedd gan y ddwy ohonom yr un nod sef cyfleu Cymru heddiw a mynd dan groen y cymeriadau o Gymry a dangos eu cynhesrwydd, y llon a'r lleddf, ond y pwyslais ar ddigon o sbort.

Ai dyma'r tro cyntaf i ti sgwennu drama deledu?

Rwy'n rhan o dîm sgriptio Pobol y Cwm ond dyma'r ddrama deledu unigol gyntaf i mi ei chyd-ysgrifennu ar gyfer S4C ac fe wnes i fwynhau'r profiad yn fawr. Mae wedi codi blys arna i i wneud mwy. Roedd gweithio gyda Tidy Productions yn lot o sbort. Fe ges i fynd lawr ar y set a gweld yr actorion wrthi ac roedd yna wastad awyrgylch hapus braf.

Sut ddaeth y gwahoddiad i weithio gyda Ruth ar y ddrama?

Wedi i rywun argymell fy nofel Saesneg Random Deaths and Custard i David Peet, gŵr Ruth fe gysyllton nhw yn fuan wedyn i ddweud eu bod wedi cael blas ar y llyfr ac a hoffwn i ystyried gweithio fel tîm ar ddarn o waith a oedd ganddynt mewn golwg ar gyfer eu cwmni Tidy Productions.

Rwy'n ffan mawr o Ruth ac o'r gyfres Gavin and Stacey felly roedd yn fraint fawr i mi dderbyn y gwahoddiad i weithio 'da hi. Dwi'n credu ein bod ni ar yr un wavelength o ran y pethau ry'n ni'n ysgrifennu oherwydd mae'r un math o gymeriadau Eingl-Gymreig yn fy llyfr Random Deaths and Custard ag sydd yn Gavin and Stacey.

Ruth a'i gŵr gafodd y syniad cychwynnol am Ar y Tracs ac yna fe fuon ni'n gweithio ar ddatblygu'r sgript a'r cymeriadau dros fisoedd y gwanwyn gan deithio yn ôl ac ymlaen rhwng Caerdydd a Chaerfyrddin i sgwennu.

Mae cyd-sgwennu 'da Ruth wedi bod yn gymaint o sbort. Roedden ni'n hanner perfformio'r syniadau i'n gilydd ac roedd y ddwy ohonon ni yn bownsio syniadau oddi ar ein gilydd. Dwi hefyd, wrth reswm, wedi dysgu lot ganddi hi ac mae gan y ddwy ohonon ni sgiliau gwahanol felly roedd hynny yn cryfhau'r gwaith tîm.

Mae gweithio fel dau berson yn brofiad deinamig gwahanol. Ry'ch chi'n gweithio'n agos mewn stafell gyda'ch gilydd am 7 i 8 awr ac yn anorfod yn dod i berchenogi'r byd bach dychmygus yma ry'ch chi wedi ei greu da'ch gilydd.

Sut y daethoch chi ymlaen?

Mae'n lot o sbort bod gyda hi ac roedd y broses o gyd-ysgrifennu'r sgript yn un ddifyr iawn. Mae Ruth yn berson cynnes ac yn ffrind da i mi erbyn hyn. Be sy'n arbennig amdani yw ei thalent aruthrol ond mae'n fodlon derbyn a gwrando ar syniadau newydd. Mae hi hefyd wrth ei bodd yn cydweithio, fel mae hi wedi ei wneud ar Gavin and Stacey gyda James Cordon.

Roedd y ddwy ohonon ni yn tecstio syniadau i'n gilydd, yn enwedig os oedd un ohonon ni yn teithio ar drên ac yn gweld rhywbeth diddorol neu'n clywed brawddeg yn cael ei ddweud a fyddai'n ddefnyddiol ar gyfer y sgript.

Beth sydd ar y gweill nesaf i ti?

Rwy' newydd ddychwelyd o ymweld â ffrind yn Awstralia oedd yn grêt, felly rwy'n edrych ymlaen nawr i dreulio Nadolig tawel 'da'r teulu a ffrindiau a jest cael hoe fach cyn ail afael ynddi yn y Flwyddyn Newydd. Mae gen i ddilyniant i fy nofel Random Deaths and Custard ar y gweill a phrosiectau difyr eraill hefyd.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales