Mae Ar y Tracs yn ddrama gomedi sydd wedi ei chreu gan Ruth Jones a'i hysgrifennu ar y cyd gan Ruth a'r awdur Catrin Dafydd. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar fywydau criw trên sy'n gweithio ar y lein rhwng Abertawe a Llundain. Mae'r criw'n cynnwys Sophie, rheolwr y trên sydd â'i bryd ar fod yn yrrwr trên, 'Reality', sy'n gweithio yn y cerbyd bwffe ac sy'n breuddwydio am fod yn enwog, Dyfrig, y gyrrwr trên dibynadwy a oedd â phroblemau gamblo yn y gorffennol, a Pandora, y troli doli benchwiban - heb anghofio am Ruth ei hun, sy'n chwarae'r Bwyles, Ingrid, sy'n gweithio yng nghaffi'r orsaf.

