Neidio at y cynnwys

S4C
Reality, Pandora, Sophie and Dyfrig

Ar y Tracs

Ruth Jones C+A

Ruth Jones

Sut wnaethoch chi feddwl am y syniad ar gyfer y ffilm?

Mae fy ngŵr, David Peat, a finne'n teithio ar y trên yn aml. Roedden ni'n siarad yn y gwely un noson a dyma ni'n meddwl y byddai'n sefyllfa dda ar gyfer drama gomedi. Mae'r daith o Gaerdydd i Lundain yn ddwy awr o hyd ac rwy'n ei gwneud hi'n aml 'da fy ngwaith ac yn gweld a chlywed lot o bethau diddorol. I lawer o bobl, mae teithio ar y trên yn rhan o'u bywyd beunyddiol, ond i eraill, mae'n ddigwyddiad - ac weithiau yn ddigwyddiad blynyddol. Rwy'n caru'r syniad o'r holl bobl yma o wahanol gefndiroedd gyda chymaint yn digwydd yn eu bywydau i gyd yn rhannu'r un siwrne. Mae'n agor y drws ar gymaint o bosibiliadau a gallwch fynd â'r syniad i gymaint o lefydd - yn llythrennol!"

Beth yw eich rôl chi yn y cynhyrchiad?

Mae'n siŵr mai fi sydd wedi creu'r ffilm, gan mai fi ddaeth fyny gyda'r cysyniad gyda fy ngŵr, cyn mynd ymlaen i feddwl am y cymeriadau a'u byd. David gynhyrchodd y ffilm ac fe es i lawr i'r set bob yn hyn a hyn. Cafodd y sgript ei ysgrifennu ar y cyd â Catrin Dafydd.

Sut fysech chi'n crynhoi Ar y Tracs?

Mae hi'n bendant yn ddrama dwymgalon ar gyfer y Nadolig. Does dim dynion drwg ynddi fel y cyfryw, na rhegi - mae'n ddrama gynnes a hwyliog. Dwi'n caru holl gymeriadau'r ddrama, sy'n gwneud eu gorau glas i gadw eu bywydau mewn trefn o dan amgylchiadau anodd. Dwi'n credu bod rhywbeth yma at ddant pawb.

Pa fath o fyd oeddech chi'n ceisio'i gyfleu?

Fe wnaeth David ei ddisgrifio'n berffaith yn ddiweddar. Fe ddywedodd e fod y bobl yn y ddrama'n codi yn y bore ac eisiau dod ymlaen â'i gilydd. Dydyn nhw ddim yn chwilio am ffrae. Mae rhywbeth eitha' hudolus am fyd y trên sy'n teithio dros gannoedd o filltiroedd drwy'r wlad ddydd ar ôl dydd...

Allwn ni ddisgwyl gweld teithwyr diddorol?

Ry'n ni'n hynod falch ein bod ni wedi cael pobl fel Stifyn Parri a Stan Stennett i gymryd rhannau cameo. Dydw i ddim eisiau sbwylio'r syrpreis, ond mae 'na ambell berson enwog yn chwarae nhw eu hunain yn y ffilm hefyd, sydd wastad yn hwyl. Mae e ychydig fel pantomeim! Ro'n i'n gyffrous iawn fod cymaint o enwau mawr eisiau cymryd rhan - mae e'n grêt i'r gynulleidfa.

Sut brofiad oedd gweithio ar eich cynhyrchiad Cymraeg cyntaf?

Fe wnes i astudio Cymraeg fel pwnc yn yr ysgol, ond rwy wedi dysgu lot trwy wylio rhaglenni gydag isdeitlau ar S4C. Rwy'n credu bod hyn yn ffordd dda o ddysgu oherwydd eich bod chi'n clywed yr iaith yn cael ei siarad ac yn cyfieithu wrth i chi fynd yn eich blaen. Trwy ffyrdd fel rhaglenni S4C, rwy'n credu y gall y Gymraeg fod yn fwy cyraeddadwy i ddysgwyr, sydd wedi'r cwbl ond angen yr hyder i roi tro arni. Mae fy Nghymraeg i yn bendant wedi gwella ers i mi fod yn gweithio ar Ar y Tracs. Rwy' wedi dysgu llawer drwy weithio gyda Catrin a chast a chriw dwyieithog

Fe wnaethoch chi gyd-ysgrifennu Ar y Tracs gyda'r awdures Catrin Dafydd sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Sut weithiodd y berthynas yma?

Roedd gweithio gyda Catrin yn wych. Mae hi wedi cyflawni cymaint - roeddwn i'n dal i weini mewn caffi yn ei hoed hi ac mae wedi cyhoeddi tair nofel! Mae'n berson positif iawn i fod o'i chwmpas. Roedd fy ngŵr, David, wedi cyfarfod Catrin ac roedd e'n credu y byddai'r ddau ohonom ni'n gweithio'n dda gyda'n gilydd - roedd e'n iawn.

Fe wnaethoch chi hefyd gyd-ysgrifennu'r ddrama Gavin and Stacey gyda James Corden. Ydi hi'n haws gweithio gyda rhywun arall?

Mae'n braf gweithio gyda rhywun arall oherwydd eich bod chi'n gallu bownsio syniadau oddi ar y naill neu'r llall a phan rydych chi'n teimlo'n isel mae'r llall, fel arfer, yn codi'ch calon. Mae ysgrifennu'n gallu bod yn unig pan ry'ch chi'n gwneud hynny ar eich pen eich hun.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales