Y cast
-
Sophie Thomas Mali Harries

Sophie Thomas
Sophie yw'r rheolwr trên, ond ei breuddwyd yw bod wrth y llyw, yn gyrru'r trên. Mae'n ferch fywiog, annibynnol sy'n llawn brwdfrydedd. Mae mewn perthynas gydag Alex, sy'n gweithio yn Lost Property, ac mae'n dal i fyw gartref gyda'i rhieni.
Yn cael ei chwarae gan Mali Harries
Yn wreiddiol o Gaerdydd, astudiodd Mali yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae wedi ymddangos yn y ddrama Caerdydd ar S4C ers y gyfres gyntaf, a bydd yn y bumed a ddarlledir yn 2010. Ar hyn o bryd, mae'n ffilmio Pen Talar, drama newydd ar gyfer S4C, ac mae wedi gweithio ar gyfres ITV1, Murderland.
-
Dyfrig Williams Richard Elis

Dyfrig Williams
Dyma yrrwr y trên. Mae'n gawr o ddyn cynnes a hoffus ac yn ŵr priod hapus sy'n dad i dri o blant. Mae wrth ei fodd gyda'i deulu. Roedd ganddo broblem gamblo yn y gorffennol, ond mae ei fywyd yn ôl ar y cledrau bellach.
Yn cael ei chwarae gan Richard Elis
Mae Richard, a ddaw'n wreiddiol o Sir Gaerfyrddin, yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Huw Edwards yn opera sebon y BBC, EastEnders. Yn fwy diweddar, ymddangosodd yn y ddrama 2 Dŷ a Ni ar S4C, yn ogystal â Caerdydd a Con Passionate, a enillodd wobr Rose d'Or.
-
Ellis 'Reality' Hughes Siôn Pritchard

Ellis 'Reality' Hughes
Mae Reality yn ei ugeiniau ac yn gweithio yn y cerbyd bwffe. Mae'n ysu i gael bod yn enwog. Mae'n sengl ac yn llawn hwyl. Mae ganddo feddwl mawr o'i hun, ond yn y bôn mae'n fabi mami â'i galon yn y lle iawn.
Yn cael ei chwarae gan Siôn Pritchard
Mae Siôn wedi ennill bri am ei waith actio ar lwyfan, yn bennaf gyda Theatr Clwyd a Theatr Genedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, mae'n ffilmio Pen Talar, drama newydd ar gyfer S4C. Mae hefyd wedi ymddangos yn y dramâu Talcen Caled, Treflan a Pen Tennyn ar S4C.
-
Pandora Powell Ffion Williams

Pandora Powell
Pandora sy'n gweini i'r cwsmeriaid ac mae'n cael ei hadnabod fel y 'troli-doli'. Does fawr ddim rhwng ei dwy glust ond mae ganddi agwedd ddiddorol tuag at fywyd ac mae ei diniweidrwydd yn rhan fawr o'i swyn. Mae ei bryd ar fod yn stiwardes ar awyren.
Yn cael ei chwarae gan Ffion Williams
Daw Ffion yn wreiddiol o Gwm Tawe ac mae'n fwyaf adnabyddus am ei phortread o Natasha yn y ddrama Caerdydd. Bydd Ffion hefyd yn ymddangos yn y drydedd gyfres o Gavin and Stacey ac mae ganddi ran yn ffilm arobryn Cwcw, a ddarlledir ar S4C yn 2010.
-
Gwenci Aled Pugh

Gwenci
Dyma ffrind gorau Reality sydd ar ben ei ddigon yng nghwmni Eluned, ac sy'n mwynhau ei bwyd cartref hi. Mae'n ddi-waith ac angen bath arno - ond mae'n hynod o greadigol. Mae'n ysu i helpu Reality i ddod yn enwog.
Yn cael ei chwarae gan Aled Pugh
Daeth Aled at sylw cynulleidfaoedd teledu yn fachgen ifanc yn y comedi Hapus Dyrfa ar S4C. Ers hynny, mae'r actor o Rydaman wedi ymddangos mewn nifer o ddramâu S4C, gan gynnwys Y Pris. Yn 2006 enillodd wobr Yr Actor Gorau Theatre in Wales am ei bortread o Ryan Davies yn y ddrama lwyfan The Life of Ryan and Ronnie. Mae hefyd yn chwarae Ryan ar y sgrîn fach yn y ffilm Ryan a Ronnie, a ddarlledir ar S4C Ddydd Nadolig. Ar hyn o bryd, mae'n ffilmio Royal Wedding, cynhyrchiad Tiger Aspect ar gyfer BBC.
-
Eluned Hughes Gillian Elisa

Eluned Hughes
Mam Reality yw Eluned, gwraig tŷ ecsentrig sydd yn dwlu ar ei hunig blentyn. Ond nid yw hi cweit mor ddiniwed ag y mae hi'n ymddangos wrth i'w gorffennol lliwgar ddod i'r wyneb...
Yn cael ei chwarae gan Gillian Elisa
Mae Gillian yn fwyaf adnabyddus am chwarae Sabrina yn yr opera sebon Gymraeg, Pobol y Cwm. Mae wedi ymddangos ar Gavin and Stacey a Casualty ac mae wedi perfformio ei sioe gomedi un fenyw yng Ngŵyl Fringe Caeredin.
-
Alex Caitlin Richards

Alex
Mae Alex yn gweithio yn Lost Property ac mae wedi ffoli ar Sophie - braidd yn ormodol efallai. Yn fwy nag unrhywbeth mae am i Sophie ddweud wrth ei rhieni am eu perthynas.
Yn cael ei chwarae gan Caitlin Richards
Chwaraeodd Caitlin un o'r prif rannau yn y ffilm Cymru Fach ar S4C. Mae hefyd yn ymddangos yn gyson ar y llwyfan, gan berfformio gyda Y Byd, Electra a Blackout, yn ogystal â Theatr Clwyd, gyda'r cyfarwyddwr Tim Baker. Mae wedi actio yn yr opera sebon Pobol y Cwm a'r ddrama ysgafn Cowbois ac Injans ar S4C. Astudiodd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
-
Ingrid Crenski Ruth Jones

Ingrid Crenski
Pwyles sy'n gweithio yng nghaffi'r orsaf yw Ingrid. Mae ganddi ei math arbennig o gyngor, yn aml yn yr iaith Bwyleg, ac mae wrth ei bodd yn canu'r acordion.
-
Siôn Evans Ieuan Rhys

Siôn Evans
Siôn yw rheolwr y depo. Mae'n hoffi bod byd y trên yn rhedeg i'w amserlen dynn ef. Mae'n hoff o Ingrid.
Yn cael ei chwarae gan Ieuan Rhys
Daeth Ieuan yn wyneb amlwg gyda'i bortread o Sgt Glyn James yn yr opera sebon Pobol y Cwm. Mae hefyd wedi perfformio'n gyson ar y llwyfan, radio a theledu. Mae hyd yn oed wedi troi ei law at gyflwyno, gyda'r gyfres Siôn a Siân ar S4C, ochr yn ochr â Gillian Elisa.
