Bydd Twm yn ymweld ag ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled y wlad yn ystod y flwyddyn. Os oes diddordeb gan eich ysgol wahodd Twm i gynnal gweithdy yn yr ysgol cysylltwch â barddplant@academi.org cyn gynted â phosib. Cofiwch taw'r cyntaf i'r felin gaiff falu.
Cyhoeddwyd mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Bae Caerdydd mai Bardd Plant Cymru 2009-20010 yw Twm Morys o Lanystumdwy.
Mae Twm Morys yn adnabyddus iawn fel bardd, canwr, darlledwr a cholofnydd. Cafodd ei eni yn Rhydychen a'i fagu yn Llanystumdwy, lle mae bellach yn byw gyda'i wraig a'i blant. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn yn 2003 ar y testun Drysau. Mae'n aelod o dîm Talwrn Y Tywysogion ac yn canu gyda'r grŵp Bob Delyn a'r Ebillion. Mae ei gyhoeddiadau'n cynnwys: Ofn Fy Het (Barddas, 1995), Triawd Machynlleth (gyda Jan Morris; Viking, 1994), Eldorado (gydag Iwan Llwyd; Gwasg Carreg Gwalch, 1999) a 2 (Barddas, 2002).
Cynllun ar y cyd rhwng S4C, Urdd Gobaith Cymru , Cyngor Llyfrau Cymru ac Academi yw cynllun Bardd Plant Cymru. Mae nifer o feirdd amlycaf Cymru wedi derbyn yr anrhydedd ers i'r cynllun gychwyn yn 2000. Meddai Twm: "Ers blynyddoedd bellach, rwy'n ymweld ag ysgolion, weithiau efo criw o feirdd eraill, i sôn am farddoniaeth, ac i greu barddoniaeth efo'r plant.
Ond rwy wedi sylweddoli ers sbel mai'r gwaith mwya' gwerthfawr yr ydan ni'n ei wneud ydi rhoi hyder i'r plant. Hyder i fynegi eu hunain, a hyder i berthyn. Gwneud yr iaith yn bêl rydan ni, ac wrth chwarae efo honno, mae'r plant, heb yn wybod iddyn nhw, yn dysgu geirfa a gramadeg, hanes eu plwy nhw, hanes Cymru, hynt a helynt y byd!"
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales