Os am gofrestru eich ysgol am ymweliad neu weithdy e-bost, neu i gysylltu â Bardd Plant Cymru, e-bostiwch: barddplant@ llenyddiaethcymru.org
Yn wreiddiol o Dreboeth ger Abertawe, mae Dewi yn enwog am ei dynnu coes, ei ffwlbri a'i bryfocio, ond mae'n enwocach fyth fel actor, canwr, bardd, awdur a chyflwynydd teledu.
Twm Morys
Mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Conwy, cyhoeddwyd mai Bardd Plant Cymru 2008-2009 yw Ifor ap Glyn o Gaernarfon.
Ddydd Mawrth, 29 Mai, mewn seremoni ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr, cyhoeddwyd mai Caryl Parry Jones yw Bardd Plant Cymru 2007–2008. Bydd yn ymweld ag ysgolion yn ystod y flwyddyn ac yn cynnal gweithdai barddoniaeth gyda phlant trwy e-bost.
Gwyneth Glyn oedd Bardd Plant Cymru 2006–2007.
Mererid Hopwood oedd Bardd Plant Cymru 2005–2006.
Tudur Dylan Jones oedd Bardd Plant Cymru 2004–2005. Bu'n ymweld ag ysgolion yn ystod y flwyddyn ac yn cynnal gweithdai barddoniaeth gyda phlant ar y we.
Ceri Wyn Jones oedd Bardd Plant Cymru 2003–2004. Yn ystod y flwyddyn bu'n ymweld ag ysgolion ledled Cymru i annog disgyblion i greu barddoniaeth ac yn cynnal gweithdai ar-lein. Ymhlith uchafbwyntiau'r flwyddyn gellir nodi'r gweithdy penwythnos a gynhaliwyd yng Nghanolfan yr Urdd ym Mhentre Ifan, Sir Benfro, gyda phlant o Ysgol Gynradd Gymraeg Tyle'r Ynn, Llansawel.
Menna Elfyn oedd Bardd Plant Cymru 2002–2003. Yn ystod y flwyddyn ysgrifennodd nifer o gerddi ar themâu arbennig, yn ogystal ag ymweld ag ysgolion ledled Cymru i annog disgyblion i greu barddoniaeth. Cyhoeddwyd cyfrol o'r cerddi a luniwyd yn ystod y flwyddyn gan Menna a beirdd ifanc Cymru, o dan y teitl Caneri Pinc ar Dywod Euraid.
Mei Mac (Meirion MacIntyre Huws) oedd Bardd Plant Cymru 2001. Ysgrifennodd nifer o gerddi yn ystod y flwyddyn gan deithio o amgylch y wlad yn ymweld ag ysgolion ac yn annog plant i greu barddoniaeth. Ysgrifennodd gerdd newydd, ‘Y Pethau Bychain’, ar gyfer Ddydd Gŵyl Dewi 2001. Cyhoeddwyd cyfrol o'r cerddi a luniwyd yn ystod y flwyddyn gan Mei Mac a chyw feirdd Cymru, o dan y teitl Rhedeg Ras Dan Awyr Las.
Myrddin ap Dafydd oedd y person cyntaf erioed i wisgo mantell Bardd Plant Cymru. Yn ystod ei flwyddyn cynhaliodd nifer o weithdai mewn ysgolion ac un yn Stadiwm y Mileniwm. Cyfansoddodd nifer o gerddi ac fe’u cyhoeddwyd yn y gyfrol Jam Coch mewn Pwdin Reis, cerddi Bardd Plant Cymru 2000 a beirdd ifanc Cymru.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales