Os am gofrestru eich ysgol am ymweliad neu weithdy e-bost, neu i gysylltu â Bardd Plant Cymru, e-bostiwch: barddplant@academi.org
Does dim byd i ddweud bod rhywun yn yr hen oes wedi dweud:
'Mam! Edrych ar y mamoth' neu 'Dos i eistedd ar garreg wrth y tân' a 'Bwyta dy esgyrn i gyd yn lân'
ond mae'n eithaf posib! Mae barddoniaeth mor hen â bod rhieni yn hwian canu eu babanod i gysgu; mor hen â bod yna chwerthin a chrio yn y byd; mor hen â bod plant yn siarad...
A! Chwifiwch yr hen ddraig goch. Mae'r cerddi hynaf yn y Gymraeg yn 1500 mlwydd oed - ac mae'r iaith yn syndod o debyg i'r hyn rydan ni yn ei siarad heddiw.
Am eu bod nhw'n rhy ddiog i sefyll? Am eu bod nhw'n mwynhau eistedd wrth fyrddau yn bwyta ac yfed yn iach? Am y byddai soffa yn costio gormod...?
Roedd gan y prif feirdd gadair wrth fwrdd y tywysog ganrifoedd yn ôl. Roedd yn un o brif swyddogion y llys, yn moli'r arweinydd a'i deulu, yn codi ysbryd ei bobl ac yn cofnodi prif ddigwyddiadau'r oes. Roedd y gadair yn arwydd o allu a phwer - yn debyg i gadair yn y cabinet gyda'r prif weinidog heddiw. Mae eisteddfodau Cymru heddiw yn cadw'r cof yn fyw am yr anrhydedd honno.
Mae'n wir mai enwau'r tri Bardd Plant cyntaf yng Nghymru oedd Myrddin, Meirion a Menna. Ond dydi hi ddim yn wir fod gan bob bardd enw yn dechrau gyda 'M'.
Mae rhai yn dweud bod pawb yn cael eu geni yn feirdd ond bod y rhan fwyaf yn tyfu i fyny ac yn callio.
Dewiswch chi. Rhowch 1 gyferbyn â'r llinell orau, 2 gyferbyn â'r ail ac yn y blaen. Beth am ychwanegu at y llinellau:
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales