Neidio at y cynnwys

S4C

Cysylltu â'r bardd

Bydd Eurig yn ymweld ag ysgolion a grwpiau ieuenctid ledled y wlad yn ystod y flwyddyn. Os oes diddordeb gan eich ysgol wahodd Eurig i gynnal gweithdy yn yr ysgol cysylltwch â barddplant@ llenyddiaethcymru.org cyn gynted â phosib. Cofiwch taw'r cyntaf i'r felin gaiff falu.

Blog y Bardd Plant

20 Rhagfur 2011

Wel, am ddau fis prysur!

Mae'r Nadolig ar y trothwy, a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at roi fy nhraed i fyny oflaen y tân gydag ambell fins-pei blasus. Mi fydd hi'n braf medru ymlacio am ychydig, oherwydd dwi wedi bod yn teithio Cymru benbaladr a thu hwnt yn ddiweddar.

Ganol Hydref mi ges i ddiwrnod arbennig ym Merthyr Tudful yng nghwmni plant o ysgolion cyfagos, ac mi ges i hefyd gyfle i gael sgwrs gyda chyn-Fardd Plant, Mererid Hopwood, ac Awdur Llawryfog Pobl Ifanc, Catherine Fisher. Y bore wedyn mi wibiais i draw i Gasnewydd ac yna i Ysgol y Berllan Deg ar gyrion Caerdydd yn y prynhawn, a chael croeso cynnes iawn yn y ddau le.

Fel arfer mi fyswn i wedi troi tuag adref am y penwythnos, ond mi oedd digwyddiad arbennig ymlaen y diwrnod wedyn yng Nghanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, sef Gwyl y Gair Llafar. Mi ges i lawer iawn o hwyl yng nghwmni lot o feirdd bach brwdfrydigiawn! Dyma ychydig o gynnyrch y gweithdai hynny - http://www.literaturewales.org/hafan/i/140420/desc/sgwad-sgwennu-merthyr-a-bardd-plant-cymru/

Ganol Tachwedd mi ddaliais i awyren (wel, dwy awyren i ddweud y gwir) i hedfan draw i India bell. Mi gymerais i ran mewn gwyl yno mewn tref o'r enw Kerala, a chael cyfle i sgyrsio gyda nifer fawr o feirdd, yn cynnwys cyn-Fardd Plant arall - Twm Morys! Yna mi es i a bardd o India, Sampurna Chattarji, i gynnal gweithdai mewn ysgolion ym Mangalore ac ym Mumbai. Dyma lun o fi a Sampurna'n dangos i blant ym Mumbai ble'n union mae Cymru fach!

Eurig Salisbury

Wedyn rai wythnosau'n ôl mi gariais i ymlaen efo'r gweithdai, ond nôl yngNghymru'r tro yma! Mi oedd plant yn Ysgolion Peniel, Brechfa, Cwrt Henri, y Dderwen a Bro Eirwg yn gwmni da iawn, ac mi oedd hi'n brofiad arbennig imi fynd yn ôl i fy hen ysgol i yn Ysgol y Dderwen. Diolch yn fawr iawn ichi i gyd am greu cerddi llawn hwyl.

Mi oedd gen i un daith fach ar ôl - i Wrecsam ddechrau Rhagfyr. Y nod i blant yn Ysgolion Bodhyfryd, Bryn Tabor, I.D. Hooson, Min y Ddôl, Plas Coch a Morgan Llwyd oedd creu geiriau newydd sbon. Ac mi gawsoch chi i gyd hwyl dda iawn arni. Dyma ychydig o'r cerddi gwych hynny:

Mwy am y cerddi

Mae'r teithio wedi dod i ben am y tro! Ond mi fydda i'n ailddechrau arni yn y flwyddyn newydd. Tan hynny, Nadolig llawen iawn i holl blant Cymru ac India, a blwyddyn newydd dda!

19 Hydref 2011

Eurig Salisbury

Llun gan Keith Morris

Oi oi!

Mae lot fawr wedi digwydd ers y tro diwethaf imi ysgrifennu ar y blog - gwyliau haf (dringo mynyddoedd yr Alban), yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam - ond mae tymor newydd wedi dechrau yn yr ysgolion a dwi'n ôl ar y lôn yn ymweld â beirdd ifanc ym mhob rhan o Gymru.

Mi ges i groeso cynnes iawn yng Ngherrigydrudion ac yng Ngwyddelwern rai wythnosau'n ôl, a chroeso yr un mor gynnes yn Aberdâr, Bryntawe, Gartholwg a Bodringallt. Gan fod nifer o ysgolion wedi bod yn dathlu Diwrnod Owain Glyndŵr ar 16 Medi, mi ges i lawer o hwyl yn cyfansoddi cerddi gwlatgarol iawn i'r hen arwr gyda'r holl ddisgyblion. Ac mi fues i'n creu cerddi i arwyr cenedlaethol eraill hefyd, sef aelodau o'n tîm rygbi cenedlaethol. Mae'r bois yn cael hwyl dda arni ar hyn o bryd yn Seland Newydd - pob lwc iddyn nhw fore Gwener yn erbyn Awstralia!

Rai wythnosau'n ôl mi fues i'n creu cerddi gyda phlant ym Mlaenau Gwent - yng Nghwmbrân, ym Mlaenau ac yn y Fenni. Roedd gen i ffrind hefyd i fy helpu a oedd yn gyfarwydd i lawer ohonoch chi - Anni Llŷn o'r rhaglen Stwnsh. Ond chi'r plant oedd y sêr disgleiriaf. Dyma eich cerddi chi:

Calon Cenedl Bardd Plant Cymru

11 Gorffennaf 2011

S'mae bawb!

Bore ddoe mi es i i Ruthun i gynnal fy ngweithdy cyntaf i fel y Bardd Plant. Canodd y larwm am 6.30, mi lowciais fy mrecwast (dim amser i gael ŵy wedi'i botshio, hyd yn oed!) ac mi neidiais i mewn i'r car cyn i'r adar mân ddeffro. Roedd dosbarth cyfeillgar iawn o blant yn disgwyl amdana'i yn Ysgol Pen Barras, ac mi gawson ni lot fawr o hwyl yn creu cerddi wrth ofyn 'Beth yw'r Haf i Mi?' Fel y dywedodd un o'r disgyblion - 'yr haf i fi yw DIM YSGOL!' Felly gan nad oes yna fawr ddim o ddyddiau ysgol ar ôl erbyn hyn, dyma ddymuno gwyliau hapus iawn i holl blant Cymru!

Diolch yn fawr i ddisgyblion Miss Parry ym Mhen Barras am wneud fy mhrofiad cyntaf i fel Bardd Plant yn gymaint o hwyl (a gobeithio'n fawr y byddi di Rhodri'n well yn fuan!) Dyma beth yw'r haf i mi:

Dim larwm bach swnllyd am hanner 'di saith,
Dim haid o athrawon yn galw am waith -
Dim ond cysgu'n fy ngwely tan hanner 'di deg,
Dim ond chwarae a chwarae'n y tywydd teg.

14 Mehefin 2011

Shw'mae, su'mae! Eurig ydw i a dwi wedi cael fy newis i fod yn Fardd Plant Cymru o 2011 i 2013.

Mae ambell un wedi gofyn imi, 'beth mae hynny'n ei olygu?' Yn syml iawn, os wyt ti'n blentyn, fi yw dy fardd di! Mi alla'i dy helpu di i odli a chymharu ac i droi'r lluniau sy gen ti yn dy ben yn eiriau yn dy geg. Fedra i ddim dy helpu di i roi dy esgidiau chwarae ymlaen nac i frwsio dy ddannedd - ond mi alla'i dy helpu di i droi'r gêm yn gerdd wych ac i weld fod blew brws dannedd yn debyg iawn i'r blew sy'n tyfu allan o drwyn hen ddyn! Ych.

Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn i'ch cyfarfod chi i gyd dros y ddwy flynedd nesaf. Efallai y bydda i'n ymweld â dy ysgol di neu efallai y gwela'i di yn yr Eisteddfod. Cofia ddod draw i ddweud helô.

Yn y cyfamser, mi fydda i'n rhoi hanes fy helyntion i ar y blog yma, yn ogystal ag ambell gerdd. Dyma'r gerdd gyntaf imi ei hysgrifennu fel y Bardd Plant. Mi oedd Clwb Pêl-droed Abertawe newydd ennill rownd derfynol y gemau ail-gyfle ac yn gwybod y bydden nhw'n chwarae yn yr Uwch Gyngrair y flwyddyn nesaf. Mi oeddwn i'n gwybod hefyd fy mod i newydd gael dyrchafiad i chwarae gyda geiriau yng nghwmni beirdd bach Cymru!

Dw i ar ben fy nigon,
Dwi wedi cael promotion,
Dwi'n mynd i joio cwmni sêr
Uwch gyngrer yr ysgolion.

Mi fyddai'r tymor nesa
Yn teithio o Went i'r Bala
I gwrdd â ffrindiau newydd sbon
Yn 'sgolion dawnus Gwalia.

Mi fydd yn brofiad newydd
I fi a'r beirdd bach celfydd,
Ond fel un tîm fe allwn ni
Farddoni gyda'n gilydd!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales