Mae 'na rywbeth yn digwydd, mae yn y gwynt,
Mae pob calon yn curo'n gynt a chynt,
Baneri pob gwlad yn chwifio fry
A phedwar ban yn uno'n y gri
I annog yr arwyr i faes y gad,
I ymladd yn ddewr dros bobl eu gwlad...
Maen nhw'n gwisgo'u crysau â balchder pur,
Wedi ymdrech y drin dros y misoedd hir,
A nawr mae pob cyhyr, pob asgwrn, pob gewyn
Pob dropyn o chwys, pob anadl, pob ystum
Yn barod i wynebu'r her sydd o'u blaen,
Mae'r byddinoedd o bymtheg yn symud 'mlaen.
Ac wrth iddynt redeg i wres y pair,
Ac angerdd a dagrau yn llenwi bob gair
O galonnau'r anthemau sy'n fôr o gefnogaeth
Cyn ymchwydd y bonllef sy'n sgrechian anogaeth,
Llonyddu wna'r Ddaear, does dim troi ar y rhod
Ac mae'r byd y tu allan yn peidio â bod.
A chyda phob cic, pob tacl, pob rhediad,
Pob sgrym a phob sgarmes, pob cais a phob trosiad,
Pob pwynt, pob dyfarniad, pob mantais, pob chwiban,
Pob pas a phob lein, pob cwrs a gôl adlam,
Mae curiad pob calon o amgylch y byd
Yn dyrnu eu ffydd yn y bechgyn i gyd.
Ac ar feysydd Ffrainc bydd y cyrff yn cyfarfod,
Bydd y rhyfel yn para nes i'r ymladd ddarfod,
Ac ar ddiwedd y cyfan, dim ond un tim fydd
Yn codi'r aur gwpan, yn ennill y dydd,
Ond tan ddaw hynny bydd y byd yn uno
Dan faner y gamp a'i harwyr diflino.
Caryl Parry Jones, Bardd Plant Cymru 2007-8
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales