Noson tân gwyllt o grêt,
Burgers blasus iawn,
Rocedi yn saethu,
Gwreichion yn tasgu,
Mwg drwg yn nofio i`r nen,
Mae pawb yn cael hwyl a sbri,
Mor dywyll â'r ogof ddu,
Ond does dim ofn arna i.
Noson tân gwyllt o grêt
A llawer o fwyd,
Byrgyrs, cŵn poeth a llawer mwy,
Roced yn saethu,
Olwyn Catrin yn troi;
Guto yn llosgi
Yng nghanol mwg drwg
Sy'n hedfan i'r nen,
Mae'r hen Guto wedi llosgi'i ben.
Ar noson tân gwyllt,
Rwy'n edrych ar Guto ar y tân,
Rocedi yn saethu i'r awyr,
Tywyllwch y nos yn ddu fel y fran.
Bangiau o rocedi yn yr awyr,
Y gwreichion yn cwympo ar y llawr,
Plant yn sgrechen, lliwiau'n nofio,
Sŵn byddarol a'r cyfan yn ffrwydro.
Y bangiau yn dechrau tawelu,
Mae Noson Guto Ffowc yn dod i ben,
Lliwiau'r tân gwyllt yn diflannu,
Nawr, ar fy nghlustog rhof fy mhen.
Mae'n dawel fel y bedd
Nes i'r rocedi ddechrau saethu i'r nen,
Guto Ffowc yn llosgi ar y goelcerth,
Mae'r mwg drwg yn sgubo'r nen.
Fflamau'n crwydro fel hen gadno,
A gwreichion yn tasgu bob ffordd,
Sgrech teuluoedd yn cael hwyl a sbri,
Da arogl cŵn poeth a byrgyrs blasus.
Tân gwyllt yn neidio i'r nen,
Lliwiau lliwgar yn goleuo'r nos,
Sbarcler seren gyda'r plant,
Olwyn Catrin yn mynd ar ei thro.
Dyna beth oedd noson dda,
Cewch hwyl ond rhaid bod yn ofalus,
Nawr rwy'n llawn bwyd,
Diolch, noson tân gwyllt ar ben.
Y nos yn dawel yn troi yn y tywyllwch,
Fflamau yn neidio ac yn dawnsio'n llon,
Noson tân gwyllt yn dechrau,
Guto bach yn y fflamau'n llosgi.
Bang! Bang! Sŵn byddarol y rocedi
Yn saethu i fyny i'r nen,
Plant yn bwyta eu cŵn poeth twym,
Ac Olwyn Catrin yn troi a throi.
Plant yn llawen a'n llon,
Edrych ar y rocedi yn 'sgubo i'r nen,
Pobl yn gwylio'r tân yn llosgi,
Sparclers yn goleuo a'r mwg yn llamu.
Mae'r plant yn hapus yn edrych i'r nen,
Guto wedi llosgi - ma' noson Tân Gwyllt ar ben.
Candi fflos i fwyta,
Noson tân gwyllt, mae'n gr&t,
Rocedi'n saethu yn yr awyr ddu,
Sêr yn disgleirio yn y nen.
Pobl yn cael hwyl a sbri,
Dyna beth yw Noson Guto Ffowc i fi!
Noson tân gwyllt, byrgyrs blasus,
Rocedi llachar a gwyllt yn y nen,
Sparclers a gwreichion enfawr,
Yn disgyn fel plu eira uwchben.
Tawel fel y bedd, mor ddu â'r fran,
Noson Guto Ffowc, mae'r lle ar dân,
Fflamau'n llifo i bob lle,
Bangiau rocedi, cyffrous yw e.
Olwyn Catrin yn goleuo'r nen,
Coelcerth, byrgyrs o'r fan,
Hwyl a sbri, dyna gawn ni,
O, na! Mae noson tân gwyllt ar ben.
Noson Tân gwyllt yw hi heno,
Mae pawb yn llawn egni a nerth,
Rwy'n hoffi y lliwiau amryliw,
A'r stwff sy'n mynd mewn i'r goelcerth.
Blasu byrgyrs lyfli,
A phawb yn cael hwyl a sbri,
Lliwiau llachar y rocedi,
A'r tân yn gwasgaru.
Rwy'n gallu arogli mwg,
Mwg du yn dawnsio fry,
Sudd, ac afalau taffi,
Mae'r bangiau yn hala ofn arna i.
Rwy'n hoffi Noson Guto Ffowc,
Ar mwg yn llamu i'r nen,
Golau rocedi, yn goleuo'r gofod,
Druan â Guto Ffowc; mae ei noson ar ben.
Mae'n gyffrous ym mis Tachwedd,
Coch, glas a melyn yn troi gyda'r Olwyn Catrin,
Cŵn poeth a byrgyrs yn cael eu bwyta,
A rocedi yn ffrwydro ar eu taith.
Pawb yn cael hwyl a sbri,
Mwg drwg yn llifo i'r nen,
Guto Ffowc yn llosgi,
Sparclers, gwreichion fry uwchben.
Lliwiau'n llenwi'r awyr,
Bang yn dod bob eiliad,
Golau llachar yn goleuo'r gofod du
Dathlu Noson Guto Ffowc ydym ni.
Lliwiau lliwgar yn dawnsio
Yn yr awyr sy'n ddu fel bola buwch,
Yn y tywyllwch, roced yn saethu,
Fflamau'n mynd i bob man,
Mae Guto bach ar dân,
Druan o Guto Ffowc yn llosgi ar y tân,
Mae'r hen Guto'n drist iawn,
Ond hwyl a sbri fel plant a gawn.
Mae noson Tân gwyllt yma,
Fflamau'n crwydro dros y lle,
Clywaf sŵn y seiren,
A'r plant yn bloeddio: "Hwre!"
Sŵn y bangiau yn fyddarol,
Rocedi yn hedfan fry,
Blasaf fyrgyrs blasus,
Clywaf pawb yn cael hwyl a sbri.
Mwg drwg yn crwydro'r awyr ddu,
Golau gwyllt yn goleuo bob man,
Guto'n llosgi ar y tân,
O, rwy'n hoffi cymryd rhan.
Sêr yn disgleirio yn yr awyr yng nghanol y tân gwyllt,
Olwyniau Catrin yn throi a throi,
Bwyta afal taffi,
Dyna beth rwy'n galw'n noson tân gwyllt.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales