Gaeaf oer a'r storm yn rhuo,
Gwynt anferthol wrthi'n udo,
Dannedd môr yn llyncu llongau,
Chwalu olew ar y traethau.
Cwmwl du yn wylo dagrau,
Gwylio llygredd ar y tonnau,
Tancer olew ar y creigiau,
Adar marw ar y traethau.
Hufen ia yn ymdoddi
Dros fy llaw a lawr fy mraich i.
Amser cinio, bwyta brechdan -
Gwylan wen yn dwyn y cyfan!
Bwced a rhaw i godi muriau
Castell tywod wrth y tonnau,
Mam yn gorwedd yn y cysgod -
Dad 'di'i gladdu yn y tywod.
Machlud haul, a'r traeth yn dawel,
Tonnau'n suo yn yr awel.
Tywod unig - neb yn chwarae -
Dim ond crancod yn y pyllau.
Llanw'n dawnsio dros y pysgod,
Chwerthin hapus ar y tywod.
Bagiau, t'weli a chadeiriau.
Methu aros am y gwyliau!
Plant yn neidio dros y tonnau
Nofio, plymio i'r dyfnderau.
Chwarae criced gyda'r teulu -
Croen fel cimwch wedi llosgi.
Wylan wen ar graig yn sgrechian,
Ei llygaid barus ar fy mrechdan!
Rhaid cael gorffwys - wedi blino,
Pawb ar dywel yn torheulo.
Haul yn machlud, llanw llawn,
Troi am adre ddiwedd p'nawn.
Wedi blino, eisiau gwely,
Ond cawn ddod yn ôl yfory.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales